Newyddion S4C

Cyhoeddi gostyngiad o wyth yn nifer ASau Cymru yn San Steffan

Wales Online 08/09/2021
Siambr Ty'r Cyffredin / San Steffan

Mae manylion am gynlluniau i leihau nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru yn San Steffan o 40 i 32 yn cael eu cyhoeddi ar-lein heddiw.

Os yw'r cynllun i newid yr etholaethau seneddol yn cael sêl bendith, bydd gostyngiad o 20% yn nifer yr aelodau o Gymru.

Yn ôl Wales Online, gallai’r cynlluniau newid tirlun gwleidyddol Cymru, trwy hollti rhai etholaethau sydd wedi bodoli ers degawdau. Bydd rhai etholaethau’n cael eu dileu yn gyfan gwbl trwy uno gydag ardaloedd eraill.

Bydd ffiniau’r etholaethau newydd mewn lle erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae’r Arglwydd Hayward, yr arbenigwr gwleidyddol Ceidwadol yn rhagweld y bydd y Ceidwadwyr yn colli dwy neu dair sedd yng Nghymru, gyda Llafur yn colli pedair neu pum sedd, a Phlaid Cymru yn colli un sedd neu fwy. 

 

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, mae'r gostyngiad yn nifer y seddi yn "un o'r camau ar lwybr y Ceidwadwyr i gymryd reolaeth o San Steffan."

Ychwanegodd: "Blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r Ceidwadwyr wedi cyflwyno newidiadau i'r trefniadau etholaethol er mwyn ceisio cryfhau eu pwer."

Ar hyd a lled y DU fe all y Ceidwadwyr hawlio 10 sedd newydd fel rhan o'r ailstrwythuro.

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru’n agor ymgynghoriad ar y cynlluniau ddydd Mercher i bara wyth wythnos.

Darllenwch ragor yma.

Llun: Jessica Taylor

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.