Nifer y bobl ifanc sydd wedi cael triniaeth am hunan-niweidio ‘ar ei uchaf ers degawd’
Nifer y bobl ifanc sydd wedi cael triniaeth am hunan-niweidio ‘ar ei uchaf ers degawd’
Mae nifer y plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn triniaeth ysbyty ar ôl hunan-niweidio ar ei lefel uchaf yng Nghymru ers degawd medd y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn ôl gwaith ymchwil y blaid, cafodd 1,274 o blant a phobl ifanc eu cludo i’r ysbyty oherwydd achosion o hunan-niweidio yn 2020/21.
Roedd hyn 39% yn fwy nag yn 2007 i 2008 medd y blaid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ei hymrwymo i sicrhau y gall plant a phobl ifanc gael mynediad at gymorth a thriniaeth addas pan fyddant ei angen.
Yn ôl Nia Evans, Rheolwr Plant a Phobl Ifanc elusen Mind Cymru, mae’r ffigurau diweddaraf yn “sioc”.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae’r ystadegau yn boenus i ddarllen a bod yn onest. Ond, mae’r ystadegau yn ychwanegu at y dystiolaeth sydd gyda ni nawr ac sy’n dal i gynyddu o ran effaith y pandemig ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
“Mae pobl ifanc reit ar ddiwedd yr ystadegau yma, dim jyst niferoedd yw nhw. Maen nhw’n bobl ifanc sy’n awyddus dw i’n siŵr i dderbyn triniaeth i brosesu’r profiadau sydd wedi bod dros y ddwy flynedd diwethaf".
Yn ôl arolwg diweddar gan elusen Mind Cymru, roedd 32% o bobl ifanc oedd wedi cael problemau iechyd meddwl yn ystod y pandemig wedi troi at hunan-niweidio fel ffordd o ymdopi.
Ychwanegodd Nia Evans bod rhai pobl ifanc yn dal i aros am driniaeth a bod hyn “ddim yn deg”.
‘Patrwm sy’n gaethiwus’
Yn ôl Hywel Llŷr Jenkins, sydd wedi hunan-niweidio yn y gorffennol, dyw’r pwnc ddim yn cael ei drafod yn ddigon agored, a mae hynny yn rhan o’r broblem.
“Mae’r ffaith bod y niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty wedi cynyddu cymaint yn dangos pa mor bwysig yw gallu siarad yn agored heb feirniadaeth, a chael cefnogaeth cyn bod pethau yn mynd yn rhy beryglus i'r unigolyn”, meddai Hywel.
“Mae'r rhesymau dros hunan-niweidio yn gallu bod yn gymhleth ac yn anodd ei egluro. Gall hefyd fod yn batrwm sy'n gaethiwus iawn.
“Roedd profi rhyw fath o boen corfforol yn creu distraction o’r boen feddyliol. Rhywbeth real, amlwg, i guddio’r poen yn fy mhen roedd tu hwnt i fy nghyrraedd."
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, daw’r ffigurau diweddaraf ar hunan-niweidio “wythnosau’n unig” ar ôl cyhoeddiad bod rhai plant a phobl ifanc yn gorfod aros hyd at 40 wythnos am eu hapwyntiad cyntaf gyda gwasanaethau arbenigol.
Wrth drafod yr ymchwil, dywedodd y Gweinidog Cysgodol dros Iechyd Meddwl ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, James Evans fod y ffigyrau yn "hynod o bryderus".
Ychwanegodd bod angen cynnydd mewn buddsoddiad “ar frys” i wella rhestrau aros am wasanaethau iechyd meddwl.
Dywedodd: “Mae angen i Lywodraeth Llafur Cymru gyflwyno diweddariad o’r Ddeddf Iechyd Meddwl a sefydlu canolfannau cefnogaeth iechyd meddwl brys 24/7 er mwyn sicrhau bod gan ein plant a’n pobl ifanc fynediad i gymorth mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion".
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r rhesymau sy’n arwain at hunan-niweidio yn gymhleth ac mae angen dull gweithredu aml-asiantaeth.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall plant a phobl ifanc gael mynediad at gymorth a thriniaeth addas pan fyddant ei angen ac rydym yn parhau i weithio gydag amryw o bartneriaid i gyflawni Beth am Siarad â Fi 2 – ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Ychwanegodd y llefarydd: “Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i athrawon, gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr a’r gwasanaethau ieuenctid i’w helpu i ymateb i anghenion pobl ifanc sy’n hunan-niweidio ac yn meddwl am hunanladdiad.
“Rydym hefyd wedi gwella ein buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl i sicrhau bod cymorth ar gael yn rhwydd i’r rheini sydd ei angen".
Mae cymorth a chyngor arbenigol ar hunan-niweidio ar gael ar wefan Mind Cymru.