Cyn-arweinydd Cyngor Caerffili yn ymuno â'r Blaid Werdd

Sean Morgan

Mae cyn-arweinydd Cyngor Sir Caerffili, Sean Morgan, bellach yn cynrychioli'r Blaid Werdd ar y cyngor ar ôl gadael y Blaid Lafur.

Fe wnaeth Mr Morgan adael y Blaid Lafur ac ymddiswyddo fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystod isetholiad Caerffili ar gyfer Senedd Cymru fis diwethaf.

Dywedodd ar y pryd y byddai'n pleidleisio dros Blaid Cymru yn yr isetholiad.

Yn ogystal, mae cyn-arweinydd grŵp Llafur ar Gyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Robert James, hefyd wedi ymuno â'r Gwyrddion.

Mae hyn yn golygu bod y Blaid Werdd bellach yn cael ei chynrychioli ar 10 o awdurdodau lleol Cymru.

Dywedodd Sean Morgan wrth Newyddion S4C: “Nid yw’r Blaid Lafur, yn enwedig o dan arweiniad Keir Starmer, yn blaid sosialaidd; nid yw bellach yn blaid gan ac ar gyfer y bobl, ac wrth imi edrych drwy faniffesto’r Blaid Werdd a gwrando ar Zack [Polanski] yn siarad, daeth yn gwbl glir mai dyna oedd fy nghartref gwleidyddol.

"Dyna lle mae’r polisïau er budd ac ar ran y bobl."

Wrth ymateb i gwestiwn pam nad oedd yn cefnogi Plaid Cymru ers yr isetholiad fe ddywedodd: “Fe wnes i roi fy nghefnogaeth i’r ymgeisydd yng Nghaerffili, nid y blaid - Lindsay Whittle - rhywun rwy’n ei adnabod yn dda iawn, ac i fod yn onest â chi, roedd y bleidlais honno er mwyn sicrhau ein bod ni’n cadw Reform allan yn llwyddiannus. 

"Mae’n newyddion da iawn mai dyna’n union a ddigwyddodd.”

Yn ddi-rybudd fe gyhoeddodd ei ymddiswyddiad fel arweinydd y cyngor ac fel aelod o’r Blaid Lafur oherwydd anfodlonrwydd gyda Keir Starmer, ynghyd ag anfodlonrwydd gyda'r dewis o ymgeisydd ar gyfer yr isetholiad.

Fe wnaeth Llafur golli’r isetholiad hwnnw gan ennill dim ond 11% o’r bleidlais a gorffen yn drydydd y tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK, mewn sedd yr oedd wedi  dal ei gafael arni ers 1999.

Fe wnaeth y Blaid Werdd ennill 1.5% o'r bleidlais yng Nghaerffili gyda'i hymgeisydd y cyn-newyddiadurwr gwleidyddol, Gareth Hughes. 

Gobaith o 'ddisodli Llafur'

Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru: "Rwy'n falch iawn o groesawu Sean, ein hail arweinydd Llafur proffil uchel i ymuno â ni'r penwythnos hwn.

"Fel mae Zack Polanski yn ei ddweud, dydyn ni ddim yma i feirniadu Llafur, rydyn ni yma i’w disodli. Mae hyn yn dangos yn wirioneddol mai ni yw’r llais newydd beiddgar y mae ei angen cymaint ar Gymru.

“Gyda system bleidleisio hollol gyfrannol y Senedd ym mis Mai, mae hwn yn arwydd arall y bydd y Gwyrddion yn allweddol ym mhwy sy’n rhedeg Llywodraeth Cymru'r flwyddyn nesaf."

Dywedodd Mr Slaughter fod y blaid yn ffyddiog o ennill ei sedd gyntaf yn y Senedd yn yr etholiadau fis Mai nesaf.

Wrth siarad cyn cynhadledd Gymreig y Blaid Werdd yng Nghaerdydd y penwythnos hwn, dywedodd Mr Slaughter fod ei blaid ar drothwy "chwyldro hanesyddol".

Dywedodd fod aelodaeth y blaid yng Nghymru wedi "treblu" yn ystod y misoedd diwethaf, yn dilyn ethol Zack Polanski yn arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr.

Y Senedd yw'r unig ddeddfwrfa yn y DU lle nad yw'r Gwyrddion erioed wedi cael eu cynrychioli.

Yn ôl rhagamcan gan Brifysgol Caerdydd, gallai'r blaid ennill un sedd yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Mae'r Gwyrddion yn gobeithio elwa o newidiadau sydd ar ddod i sut mae Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol.

Bydd y system 'y cyntaf i'r felin' a ddefnyddir ar hyn o bryd i ethol dwy ran o dair o'r Aelodau yn dod i ben, a bydd pob gwleidydd yn cael ei ethol trwy system gyfrannol, rhestr gaeedig.

Mae Llafur wedi cael cais am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.