Cynllun dadleuol i adeiladu 33 o dai fforddiadwy yn Llanilar

Newyddion S4C
Llanilar

Mae'n bosib bydd 33 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu ym mhentref Llanilar yng Ngheredigion, pe bai cais cynllunio yn cael ei gymeradwyo gan y cyngor sir. 

Mae gwrthwynebiad cryf wedi bod i'r cynllun, gydag ymgyrchwyr yn dweud nad oes capasati o fewn is-adeiledd y pentref i ddelio gyda thri gwahanol gynllun posib i adeiladu tai yn Llanilar. 

Mae ystâd Dol Meillion yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd sydd yn ddatblygiad 44 eiddo. Mae caniatâd amlinellol arall ar gynllun i adeiladu 84 eiddo yng nghanol y pentref, yn ogystal â’r cynllun 33 tŷ sydd yn mynd o flaen Cyngor Ceredigion ar hyn o bryd.

Yn ôl y datblygwr, mae’r cais hwn yn ceisio “ymateb yn uniongyrchol i’r angen lleol a gofnodwyd, trwy ddarparu cartrefi sydd yn wirioneddol fforddiadwy”. 

Gwrthwynebiad

Mae Melanie Cargill yn byw yn Llanilar ac yn dweud bod bwrw mlaen gyda’r datblygaid yn golygu adeiladu y tu allan i’r Cynllun Datblygu Lleol. 

Fe ddywedodd Ms Cargill: “Mae'n bwysig nodi nad yw’r gymuned yn erbyn datblygu tai fforddiadwy, ond mae Llanilar wedi gweld twf sylweddol ac mae na fwy i ddod. 

“Mae’r datblygiad yma yn y lle anghywir, ac o’r maint anghywir.”

Ychwanegodd: “Mae 65 o dai wedi cael eu hadeiladu yn barod, gyda safle arall o fewn yr LDP sy’n gobeithio adeiladu 67 o dai. Os ydyn nhw’n cario mlaen gyda datblygiad Tanrallt bydd Llanilar dros yr housing allocation o 30%. 

“Mae hwnna’n dwf sydd heb ei gynllunio, sydd yn anghynaliadwy ac yn anghyfiawn. Mi fyddai’n mynd yn erbyn pob polisi cynllunio a ni’n gwybod na fydd gwasanaethau lleol yn gallu ymdopi gyda’r twf yma.”

Yn eu cais cynllunio, mae Tair Chwaer Cyf yn cynnig adeiladu cyfanswm o 33 o dai newydd, pob un yn dai fforddiadwy, ar dir Fferm Tanrallt.

Roedd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y datblygiad wedi ei osod, a fyddai’n cael ei gyflawni gan gymdeithas dai Barcud, er mwyn adeiladu 11 cartref un ystafell wely, 15 tŷ dwy ystafell wely, 5 cartref tair ystafell wely, a 2 dŷ mwy â phedair ystafell wely.

Yn ôl dogfennau cynllunio, byddai’r safle’n cael ei ddatblygu er mwyn “darparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel, wedi’u dylunio’n dda ac sy’n apelio’n weledol, i wasanaethu cymuned Llanilar a’r ardaloedd cyfagos”.

Mae Nerys Owen yn berchennog ar gartref preswyl yn Llanilar ac maen dweud “bod yr ardd yn rhan bwysig o fywyd dyddiol y preswylwyr sy’n byw yno.”

“Mae'n mynd i gael effaith ar fusnes fel Cysgod y Coed. Mae 15 o breswylwyr yma, i gyd yn dod i Geredigion. Os na allai gynnig yr ardd i bobol ddod i fyw yma, maen mynd i gael effaith mawr ar y preswylwyr - nifer sydd yn byw gyda dimentia," meddai.

“Mae'n bwysig bod pobol oedrannus yn cael cyfle i gael llonyddwch, tawelwch ac awyr iach.

“Dwi’n nabod fy musnes i, dwi ddim yn gwybod llawer am gynllunio ond dwi’n gwybod beth yw rhedeg cartref preswyl. Dwi’n gwbod fydd y swn yn cael niwed difrifol ar bobol yma sydd yn byw gyda dimentia. Dwi’n teimlo yn gryf, os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, y bydd na ofid mawr y bydd drysau y cartref yma yn cau.“

Argyfwng Tai

Dywedodd un elusen flaenllaw, y Sefydliad Siartredig Tai, bod angen gweledigaeth strategol yng Nghymru er mwyn datblygu tai ar y graddfa a’r cyflymder sydd ei angen. 

Dywedodd Matt Dicks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol CIH Cymru: “Mae angen sgwrs genedlaethol o gwmpas y stigma sy’n gysylltiedig â thai cymdeithasol a fforddiadwy. Un o’r rhwystrau mwyaf i ganiatâd cynllunio yw ymateb lleol i dai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu. 

“Mae tua thri chwarter o bobl yn cefnogi cyfraith roi yr hawl i dai digonol i bawb, ond os pan ofynwch chi a ddylai’r tai hynny gael eu hadeiladu yn agos atoch chi, mae’r ffigur hwnnw’n gostwng yn sylweddol.

“Mae gan y mwyafrif helaeth o bobl sydd wedi byw mewn tai cymdeithasol brofiad positif iawn.

“Dim mynd i’r afael â manion sydd ei angen ond dod â’r cyfan ynghyd mewn strategaeth – a chael gweledigaeth strategol.

“Mae angen asiantaeth ddatblygu sydd hyd braich o’r Llywodraeth yng Nghymru, yn debyg i’r hyn sydd ganddyn nhw yn Lloegr, sy’n dod â darnau o dir strategol at ei gilydd er mwyn gyrru y graddfa a’r cyflymder o ddatblygiadau sydd ei angen.”

‘100% Fforddiadwy’

Mae'r cais cynllunio wedi ei gyflwyno gan Sion Jenkins o gwmni Tair Chwaer Cyf ac maen dweud bod y cynllun tai “yn cant y cant fforddiadwy, a fydd yn cael ei asesu gan Cyngor Sir Ceredigion yn erbyn ystyried cynllunio materol a'r polisi fydd yn cael ei fabwysiadu”.

“Mae Sir Ceredigion yn gwynebu argyfwng tai sydd wedi ei ddogfennu yn gyson, gyda dros pedair mil o  gartrefi ar gofrestr tai Cyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd . Mae llawer ohonynt o fewn cymunedau gwledig fel hwn yn Llanilar.

“Mae’r cais hwn yn ceisio ymateb yn uniongyrchol i’r angen lleol a gofnodwyd, trwy ddarparu cartrefi sydd yn wirioneddol fforddiadwy gan bobl lleol, ac mae’n cael ei gydnabod bod llawer yn cefnogi cynlluniau o'r fath oherwydd y rôl y maent yn ei chwarae yn y broses o gydnabod yr anghenion tai lleol.

“Un buddiant allweddol o ddarparu tai lleol a fforddiadwy yw y gall cymhwyso macaniaethau fel polisïau rhentu lleol, gan roi blaenoriaeth i bobl sy’n byw ac yn gweithio o fewn cymunedau gwledig. Mae hyn yn helpu i fynd i gwrdd ac anghenion tai a nodwyd tra hefyd yn cefnogi’r Iaith Gymraeg ar gwaed cymdeithasol a diwilliannol yn ein pentrefi gwledig.”

‘Cymryd camau’

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod y “cymryd camau gweithredu ar draws systemau cynllunio, eiddo a threthu i ddarparu cartrefi ar y raddfa a’r cyflymder sydd eu hangen ar Gymru.”

“Er gwaethaf heriau economaidd digynsail, rydym wedi buddsoddi mwy na £2bn yn nhymor y Senedd hwn mewn tai cymdeithasol ac rydym yn gweld rhai o’r cyfraddau darparu uchaf mewn bron i 20 mlynedd.

“Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn chwilio am dir ychwanegol i’w ychwanegu at ei phortffolio presennol, a fydd yn darparu 7,000 o gartrefi - y bydd hyd at 50% ohonynt yn fforddiadwy.”

Galw am sefydlu Unnos mae Plaid Cymru, fel corff i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflymu'r broses o ddarparu tai cymdeithasol - am eu bod o ddifrif am greu system dai teg sy'n gweithio i bobl Cymru, sy'n cefnogi unigolion a theuluoedd i fyw mewn tai cynnes, diogel a pharhaol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.