Sir y Fflint: Dau yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ‘difrifol’

RTC Saltney

Mae dau o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Saltney, Sir y Fflint ddydd Gwener.

Cafodd y llu eu galw i wrthdrawiad rhwng fan wen a beic modur toc wedi 18:11 ar gyffordd Stryd Fawr Saltney a Rhodfa’r Parc.

Bu’n rhaid i yrrwr y beic modur a’r person oedd yn teithio ar gefn y beic fynd i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd y llu eu bod nhw’n awyddus i siarad â gyrrwr y fan wen wnaeth adael y lleoliad yn dilyn y gwrthdrawiad

Mae’r llu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth berthnasol, lluniau camera dashfwrdd neu deledu cylch cyfyng i gysylltu gan ddyfynnu'r cyfeirnod C173199. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.