Cherry Vann yn cael ei hurddo'n Archesgob Cymru
Mae Cherry Vann wedi’i hurddo’n Archesgob Cymru mewn gwasanaeth gorseddu ddydd Sadwrn.
Y Parchedicaf Cherry Vann yw’r fenyw gyntaf i fod yn Archesgob ar Gymru.
Cafodd ei gorseddu yng Nghadeirlan Casnewydd, ar ôl iddi gael ei hethol i’r rôl fis Gorffennaf.
Mae’n olynu Andy John, a gyhoeddodd fis Mehefin y byddai'n rhoi'r gorau i'w waith fel Archesgob Cymru ac Esgob Bangor ar unwaith, wedi i ddau grynodeb o adroddiad gael eu cyhoeddi oedd yn ymwneud â methiannau yn ei esgobaeth.
Yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr, cysegrwyd Cherry Vann yn Esgob Mynwy ym mis Ionawr 2020.
Cyn hynny gwasanaethodd fel Archddiacon Rochdale, yn Esgobaeth Manceinion, am 11 mlynedd.
Inline Tweet: https://twitter.com/ChurchinWales/status/1987210978174304480?s=20
Daliodd Esgob Cherry swyddogaethau uwch yn llywodraethiant Eglwys Loegr.
Roedd yn Llefarydd Siambr Isaf Confocasiwn Caerefrog ac yn aelod ex-officio o Gyngor yr Archesgobion.
Yn ddiweddar roedd yn aelod o’r Bwrdd Buddsoddiad Strategol a ddyrannodd arian sylweddol i brosiectau a arweiniodd at dwf eglwysig.
Roedd hefyd yn aelod o Grŵp Bugeiliol Ymgynghorol yr Archesgobion, gyda’r cyfrifoldeb o lunio egwyddorion bugeiliol ac adnoddau i helpu eglwysi gynnig croeso diffuant i bobl LGBTQI+.
Mae hi’n angerddol dros gyfiawnder a chymod ac mae wedi sefydlu a chadeirio grwpiau ar draws Esgobaeth Manceinion a ddaeth â phobl gyda safbwyntiau a chredoau gwahanol ar ordeinio menywod a materion yn ymwneud â rhywioldeb dynol at ei gilydd.
Mae Esgob Cherry yn byw gyda’i phartner sifil, Wendy, a’u dau gi.