Cymry yn dychwelyd i westy unigryw y Court Royal

Cymry yn dychwelyd i westy unigryw y Court Royal
Mae gwesty unigryw y Court Royal yn Bournemouth wedi ail-agor ar ôl bod ynghau drwy gynol y pandemig.
Dim ond gwesteion sydd â chysylltiad gyda diwydiant glo de Cymru sy'n cael aros yn y Court Royal, ac am y tro cyntaf ers deunaw mis cyrhaeddodd bws llawn o Gymry'r gwesty brynhawn ddydd Mawrth.
Oni bai am gyfnod y pandemig, mae Eryl a Daphne Lloyd o Rydaman wedi bod yn dod i'r Court Royal bob blwyddyn ers dechrau'r 80au.
Dywedodd Mr Lloyd, a fu’n gweithio yn y pyllau glo am 44 o flynyddoedd: “Yn tŷ fi wedi bod ers y pandemig, ma’r gwyliau cynta' i fi a'r wraig.”
Bydd Mr Lloyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 91 ddydd Sul.
“Ma’n rhyddhad i ddod lawr, ac i ni’n lwcus i gael iechyd i ddod,” ychwanegodd Mrs Lloyd.
Cartref i ofalu am lowyr sâl oedd yr adeilad yn wreiddiol, cyn iddo gael ei droi'n westy.
Elusen glowyr de Cymru sy'n rheoli'r gwesty ac mae'r gornel fach o Gymru wedi bod yn Bournemouth ers 1947.
Yn ôl Judith Emmanuel, sydd hefyd wedi dychwelyd am wyliau i’r gwesty eleni, mae’n dda cael dod yn ôl: “Mae'n smashing, cwmni neis, hotel lyfli a digon o Gymraeg. O’n i ffili mynd mas am ddwy flynedd achos o’n i ofn dala rhywbeth ond fi’n falch o fod yma nawr.”