Newyddion S4C

Dim un fenyw wedi'i phenodi yn llywodraeth newydd y Taliban

Al Jazeera 08/09/2021
y taliban

Mae’r Taliban wedi cyhoeddi llywodraeth newydd o 33 o aelodau yn Afghanistan.

Yn groes i'w haddewidion, nid oes yr un fenyw, na unrhyw un o grefydd leiafrifol yn rhan o'r llywodraeth newydd. 

Wedi ei benodi fel y pennaeth newydd mae Mohammad Hasan Akhund, wythnosau’n unig ar ôl i’r grŵp gymryd rheolaeth o Afghanistan.

Yn ôl Al Jazeera, roedd Akhund yn “gyfaill agos” gyda sylfaenydd y grŵp, y diweddar Mullah Omar.

Mewn cynhadledd newyddion ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul ddydd Mawrth, dywedodd y prif lefarydd Zabihullah Mujahid bod y cabinet yn “gweithredu” fel llywodraeth ac y bydd y grŵp yn “trio cymryd pobl o rannau eraill o’r wlad”.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.