Gweinidog Iechyd Lloegr yn amddiffyn y cynnydd o 1.25% mewn taliadau Yswiriant Gwladol
08/09/2021
Mae Gweinidog Iechyd Lloegr, Sajid Javid, wedi amddiffyn cynllun Boris Johnson i gynyddu taliadau Yswiriant Gwladol gan 1.25%.
Mewn cyfweliad â Sky News, dywedodd Mr Javid "nad yw’n hoffi cynyddu trethi” ond bod angen gwneud er mwyn “atal rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd rhag cyrraedd 13 miliwn o bobl mewn tair blynedd".
Dywedodd Boris Johnson wrth weinidogion ddydd Mawrth ei fod yn gynnydd “angenrheidiol” oherwydd y pwysau ariannol a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19.
Bydd Aelodau Seneddol San Steffan yn paratoi i bleidleisio ar y cynnydd heddiw.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: UK Prime Minister (Flickr)