Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein hafan ar fore Mawrth, 7 Medi - o Gymru a thu hwnt.
Tywydd poeth: Gwasanaeth Ambiwlans yn wynebu ‘galw eithriadol’
Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd gofal yn y tywydd poeth, wrth i’r gwasanaeth Ambiwlans wynebu “galw eithriadol”. Dros y penwythnos diwethaf, fe dderbyniodd y gwasanaeth un alwad bob 40 eiliad medd swyddogion. Daw hyn wedi i’r gwasanaeth brofi penwythnos Gŵyl y Banc prysur yn ddiweddar. Mae’r tymheredd yn debygol o gyrraedd 28°C mewn rhannau o Gymru ddydd Mawrth, gyda’r tymheredd yn parhau’n gymharol uchel drwy hanner cyntaf yr wythnos o leiaf.
Boris Johnson i gyflwyno cynlluniau Yswiriant Gwladol - Sky News
Mae disgwyl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, gyflwyno ei gynlluniau i gynyddu Yswiriant Gwladol i ariannu gofal cymdeithasol yn Lloegr ddydd Mawrth. Daw hyn er gwaethaf y ffaith fod gweinidogion, cynorthwywyr y llywodraeth ac ASau Torïaidd yn bygwth gwrthwynebu’r cynllun. Mae Mr Johnson yn paratoi i gyhoeddi cynnydd o 1.25% mewn Yswiriant Gwladol er mwyn casglu oddeutu £10bn y flwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol a'r GIG, yn ôl Sky News.
Merthyr Tudful yn ymgyrchu am statws dinas
Mae ymgyrch wedi ei baratoi gan rai o drigolion Merthyr Tudful i geisio cael statws dinas ar gyfer y dref. Fe gyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ddydd Llun fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnal cystadleuaeth anrhydeddau dinesig fel rhan o ddathliadau’r Jiwbilî Platinwm eleni. Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys statws dinas, gyda nifer o awdurdodau lleol ar draws y Deyrnas Unedig yn dymuno cystadlu.
Grŵp y Cenhedloedd Unedig yn condemnio deddf erthylu Texas - The Guardian
Mae talaith Texas wedi cael ei chondemnio am gadw deddf sy'n gwahardd erthylu gan arbenigwyr hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig. Mae'r ddeddf yn gwahardd erthyliadau mor gynnar â wedi chwe wythnos o feichiogrwydd. Dywed y Cenhedloedd Unedig ei bod yn "torri cyfraith ryngwladol", a hynny drwy wahardd menywod rhag bod â rheolaeth dros eu cyrff ac am beryglu eu bywydau.
Beiciwr modur wedi anafu'n ddifrifol ar yr A470 yn Sir Conwy
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i feiciwr modur ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Glan Conwy. Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur du ac arian a char Skoda, ar yr A470 ger Nev's Garage am oddeutu 20:41 nos Lun. Mae Sarjant Jason Diamond o Uned Plismona'r Ffyrdd yn annog unrhyw un a allai fod yn dyst i'r gwrthdrawiad i gysylltu â'r heddlu.