Merthyr Tudful yn ymgyrchu am statws dinas
Merthyr Tudful yn ymgyrchu am statws dinas
Mae ymgyrch wedi ei baratoi gan rai o drigolion Merthyr Tudful i geisio cael statws dinas ar gyfer y dref.
Fe gyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ddydd Llun fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnal cystadleuaeth anrhydeddau dinesig fel rhan o ddathliadau’r Jiwbilî Platinwm eleni.
Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys statws dinas, gyda nifer o awdurdodau lleol ar draws y Deyrnas Unedig yn dymuno cystadlu.
Mae’r Aelod Seneddol, Gerald Jones, eisoes wedi dangos ei gefnogaeth i’r ymgyrch dros Ferthyr Tudful.
Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fod y gefnogaeth gan Mr Jones yn “newyddion gwych”.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn paratoi ein cais,” dywedodd llefarydd ar ran y cyngor.
“Mae yna gymaint i fod yn falch ohono yma ym Merthyr Tudful, gan gynnwys bod yn ganolbwynt i’r Cymoedd.
“Mae Merthyr Tudful yn haeddu hyn, felly mae rhaid i ni gydweithio gyda’n gilydd er mwyn ennill statws dinas y dref.”
‘Merthyr yn cyfrannu gymaint at Gymru’
Yn ôl Lis McLean, sydd yn Brif Swyddog yn Theatr Soar yn y dref, byddai statws dinas yn codi proffil y dref ac yn “rhoi hunan-hyder i bobl Merthyr.”
Ychwanegodd: “Mae Merthyr wedi cyfrannu gymaint at Gymru o ran y Chwyldro Diwydiannol a’r holl wleidyddiaeth sy’n mynd gyda hynny.
“Ry’n ni hefyd yn haeddu cydnabyddiaeth am y ffaith bod Viagra wedi deillio o Ferthyr Tudful.
“Mae’r cyfraniad rydyn ni wedi rhoi dros y blynyddoedd yn enfawr ac yn werthfawr, a dw i yn meddwl y dylen ni fod yn ddinas.”
Llun: Google