Newyddion S4C

Gwasanaeth Ambiwlans yn wynebu ‘galw eithriadol’ yn y tywydd poeth

07/09/2021
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd gofal yn y tywydd poeth, wrth i’r Gwasanaeth Ambiwlans wynebu “galw eithriadol”.

Dros y penwythnos diwethaf, fe dderbyniodd y gwasanaeth un alwad bob 40 eiliad medd swyddogion.

Daw hyn wedi i’r gwasanaeth brofi penwythnos Gŵyl y Banc prysur yn ddiweddar.

Mae’r tymheredd yn debygol o gyrraedd 28°C mewn rhannau o Gymru ddydd Mawrth, gyda’r tymheredd yn parhau’n gymharol uchel drwy hanner cyntaf yr wythnos o leiaf.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn nodi y bydd lefelau UV yn gymedrol ddydd Mawrth, gan gynghori pobl i gadw i’r cysgod yng nghanol y dydd ac i wisgo eli haul.

Dywed y Gwasanaeth Ambiwlans fod tymheredd uchel yn arwain at gynnydd mewn galwadau gan bobl sy’n ei chael hi’n anodd anadlu.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn nodi eu bod wedi gweld cynnydd mewn galwadau’n ymwneud â Covid-19 am y bedwaredd wythnos yn olynol.

Bu 237 o alwadau’n gysylltiedig â’r feirws yn yr wythnos ers 9 Awst, gyda 293 galwad yn ystod yr wythnos ers 30 Awst.

Dywed yr Ymddiriedolaeth fod hyn hefyd wedi golygu bod 122, neu 4%, o’u gweithwyr yn absennol o’r gwaith ddydd Llun.

Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth: “Cawsom 4,316 o alwadau 999 dros y penwythnos, sydd yn gyfystyr ag un alwad bob 40 eiliad.

“Mae tywydd poeth yn golygu bod angen i’ch corff weithio’n galetach i gadw’i dymheredd craidd ar lefelau normal, ac mae hwn yn rhoi pwysau ychwanegol ar eich calon, ysgyfaint ac arennau.

“Mae’n bwysig iawn i gadw’n oerllyd ac yfed digon o ddŵr, ac os ydych yn mynd am dro ar hyd y lle, edrychwch ar ôl eich hunain a’r sawl sydd yn eich cwmni os gwelwch yn dda”.

Llun: Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.