Newyddion S4C

Beiciwr modur wedi anafu'n ddifrifol ar yr A470 yn Sir Conwy

07/09/2021
A470

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i feiciwr modur ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Glan Conwy.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur du ac arian a char Skoda, ar yr A470 ger Nev's Garage am oddeutu 20:41 nos Lun.

Mae Sarjant Jason Diamond o Uned Plismona'r Ffyrdd yn annog unrhyw un a allai wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad i gysylltu â'r heddlu.

Dywedodd: "Roedd y beiciwr modur yn teithio o gyfeiriad Llanrwst ynghyd â beiciwr modur arall, oedd yn gyrru Harley Davidson gwyn.

“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A470 ac sydd â lluniau camera dashfwrdd, i gysylltu â ni ar unwaith."

Mae'r ffordd ger Gerddi Bodnant yn parhau i fod ar gau. 

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â swyddogion drwy wefan yr Uned Plismona'r Ffyrdd neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio cyfeirnod Z132158.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.