Newyddion S4C

Grŵp y Cenhedloedd Unedig yn condemnio deddf erthylu Texas

The Guardian 07/09/2021
eschipul

Mae talaith Texas wedi cael ei chondemnio am gadw deddf sy'n gwahardd erthylu gan arbenigwyr hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig. 

Mae'r ddeddf yn gwahardd erthyliadau mor gynnar â wedi chwe wythnos o feichiogrwydd.

Dywed y Cenhedloedd Unedig ei bod yn "torri cyfraith ryngwladol", a hynny drwy wahardd menywod rhag bod â rheolaeth dros eu cyrff ac am beryglu eu bywydau. 

Dywedodd Melissa Upreti o'r Cenhedloedd Unedig wrth The Guardian fod y gyfraith yn enghraifft o wahaniaethu ar sail rhyw "ar ei waethaf".

Ychwanegodd y gallai'r ddeddfwriaeth orfodi menywod i droi at opsiynau peryglus o ganlyniad. 

Cafodd y ddeddf ei phasio ym mis Mai, mewn talaith sydd â'r deddfau erthylu mwyaf llym yn yr UDA yn hanesyddol.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: eschipul

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.