Cyhoeddi cynnydd 'angenrheidiol' o 1.25% mewn taliadau Yswiriant Gwladol

Mae prif weinidog y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cynnydd o 1.25% i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ledled Prydain er gwaethaf gwrthwynebiad ASau San Steffan.
Dywedodd Boris Johnson wrth weinidogion ei fod yn gynnydd “angenrheidiol” oherwydd y pwysau ariannol a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19, er fod y cam yn groes i faniffesto etholiadol diwethaf ei blaid.
Fe fydd y clo triphlyg ar bensiynau hefyd yn cael ei ddisodli am y flwyddyn o Ebrill 2021, gan olygu y bydd pensiynau'n cynyddu yn unol â chwyddiant yn wahanol i'r arfer.
Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu cyhoeddiad y prif weinidog fel un sydd "yn brin o fanylion."
Mae’r cynnydd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn rhan o gynlluniau Mr Johnson i fynd i’r afael â “chostau digynsail” gwasanaethau iechyd a gofal yn Lloegr.
Mae disgwyl i’r ‘ardoll iechyd a gofal cymdeithasol’ ddod i rym ym mis Ebrill 2022, medd Sky News.
Gyda newid i drethi yn effeithio holl ddinasyddion y DU, mae disgwyl i Gymru weld £2.2 biliwn o arian ychwanegol mewn blwyddyn o ganlyniad i’r cynnydd.
Mewn datganiad i Newyddion S4C yn dilyn cyhoeddiad Boris Johnson, dywedodd Llywodraeth Cymru fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd unrhyw newid i’r ffordd y mae cyllid yn cael ei ddosbarthu ledled y DU.
“Mae gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi’n fawr yng Nghymru ac rydym wedi buddsoddi’n gyson yn y sector, gan gyflwyno cap ar gostau gofal cartref a sicrhau y gall pobl gadw mwy o’u cynilion caled eu hunain cyn talu am eu gofal eu hunain.
"Rydym wedi nodi cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gofal cymdeithasol yn y tymor hwn, gan gynnwys talu cyflog byw go iawn i staff gofal cymdeithasol ac wedi cynnig gweithio gyda Llywodraeth y DU ar yr agenda bwysig iawn hon, gan gynnwys rhannu mewnwelediadau a chanlyniadau'r gwaith sylweddol yr ydym eisoes wedi'i wneud yng Nghymru trwy ein Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol.
“Er ein bod yn cefnogi gweithredu ar lefel y DU i ddarparu cyllid ychwanegol a hirdymor mawr ei angen ar gyfer gofal cymdeithasol, mae cyhoeddiad heddiw gan y prif weinidog yn brin o fanylion.”
Darllenwch y stori'n llawn yma.