Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

30/08/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Llun, 30 Awst, o Gymru a thu hwnt.

Cyn-weinidog Afghanistan: Pobl yn ‘pryderu am eu dyfodol’

Mae un o weinidogion hen lywodraeth Afghanistan wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C fod pobl yn y wlad yn “pryderu am eu dyfodol”. Mae’r cyn-weinidog wedi gadael Kabul a bellach yn nhalaith Virginia yn Unol Daleithiau’r America, lle mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cyrraedd yr UDA o Afghanistan yn cael eu cludo. Yno, fe siaradodd gyda’r newyddiadurwraig, Maxine Hughes. 

Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi buddsoddiad i wella ansawdd aer

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad mewn technoleg i wella ansawdd aer a diheintio ystafelloedd dosbarth, darlithfeydd a gweithdai. Daw hyn wrth i ddisgyblion a myfyrwyr baratoi i ddychwelyd ar gyfer tymor newydd yr hydref. Bydd cyllid ar gyfer mwy na 1,800 o beiriannau diheintio oson a thros 30,000 o synwyryddion carbon deuocsid yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru.

Nicola Sturgeon yn hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif o Covid-19 - Sky News

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn hunanynysu ar ôl dod i  i gysylltiad agos ag achos positif o Covid-19. Dywedodd y Prif Weinidog, a oedd wedi derbyn ei hail ddos o'r brechlyn yn mis Mehefin, y byddai'n hunanynysu ac yn cymryd prawf PCR. 

Newid i reolau teithio rhyngwladol yn dod i rym

Mae newidiadau i'r system oleuadau traffig llywodraethau'r Deyrnas Unedig ar gyfer teithiau rhyngwladol wedi dod i rym fore Llun. Fel rhan o'r newidiadau, mae Montenegro a Gwlad Tai yn cael eu hychwanegu i'r rhestr goch. Mae Denmarc, Lithuania, Y Ffindir, Y Swistir, Liechtenstein, yr Azores, a Canada wedi'u symud i'r rhestr werdd.

Person wedi marw wrth i Gorwynt Ida achosi difrod yn Louisiana - The Guardian

Mae un person wedi marw wrth i Gorwynt Ida gyrraedd talaith Louisiana yn yr UDA. Yn ôl The Guardian, mae'r corwynt, sydd wedi ei uwchraddio i Gategori 4, wedi effeithio cyflenwad trydan yn New Orleans, gwrthdroi llif yr Afon Mississippi ac achosi toeau tai i ddymchwel. Cafodd y farwolaeth gyntaf ei chofnodi ar ôl i goeden ddisgyn ar dŷ, yn ôl adroddiadau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.