Newyddion S4C

Cyn-weinidog Afghanistan: Pobl yn ‘pryderu am eu dyfodol’

Newyddion S4C 30/08/2021

Cyn-weinidog Afghanistan: Pobl yn ‘pryderu am eu dyfodol’

Mae un o weinidogion hen lywodraeth Afghanistan wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C fod pobl yn y wlad yn “pryderu am eu dyfodol”.

Mae’r cyn-weinidog wedi gadael Kabul a bellach yn nhalaith Virginia yn Unol Daleithiau’r America, lle mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cyrraedd yr UDA o Afghanistan yn cael eu cludo.

Yno, fe siaradodd gyda’r newyddiadurwraig, Maxine Hughes.

Mae’n aros yn anhysbys am resymau diogelwch.

‘Ni allaf fyth ei anghofio’

“Pan oeddwn i’n ceisio cael mynediad i’r maes awyr, roedden nhw’n saethu i rwystro pobl,” dywedodd wrth Maxine Hughes.

“Gallai’r bwledi hynny daro wal neu goeden neu berson.  Er nad oedd yn fwriadol, fe allai ladd pobl.  Roedd nifer o bobl wedi’u hanafu.

“Welais i ddau berson yn cael eu taro gan luoedd rhyngwladol yn saethu. Roedd hyn dim ond dwy fedr oddi wrthyf.

“Dwi ddim yn gwybod beth yn union ddigwyddodd, roedd pobl yn rhuthro. Aethon nhw â phobl oedd wedi’u hanafu i’r ysbyty.

“Roedd hwn wir yn un o ddiwrnodau gwaethaf fy mywyd, ni allaf fyth ei anghofio,” ychwanegodd.

Ddydd Sul, fe adawodd yr hediad olaf yn cario milwyr o’r Deyrnas Unedig o faes awyr Kabul, gan ddod ag ymgyrch filwrol a barodd 20 mlynedd i ben.

Mae nifer o filwyr yr UDA yn parhau i geisio cludo pobl o Afghanistan, cyn y dyddiad terfyn sydd wedi ei gytuno - 31 Awst.

Dim ‘gobeithion am y dyfodol’

Bu ffrwydradau ym maes awyr Kabul ddydd Iau gan ladd hyd at 169 o ddinasyddion Afghanistan ac 13 o filwyr yr UDA.

Mae asesiadau lluoedd yr UDA yn awgrymu fod y ddau hunan-fomiwr yn gweithio ar ran ISIS-K, rhan o’r grŵp a elwir yn Islamic State.

Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi dweud y bydd yr UDA yn talu’r pwyth yn ôl i’r sawl oedd yn gyfrifol.

Mae byddin yr UDA yn cadarnhau eu bod eisoes wedi cyflawni ymosodiadau drôn a thaflegryn tuag at gynrychiolwyr ISIS-K dros y penwythnos.

Ychwanegodd y gweinidog yn llywodraeth flaenorol y wlad: “Mae dal pobl yn aros i adael Afghanistan i gyrraedd rhywle diogel. Nid oes ganddynt obeithion am y dyfodol.

“Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf.

“Nid oes cynllun na strategaeth gan y llywodraethau oedd yn cydnabod llywodraeth flaenorol Afghanistan. Nid oes gobaith y byddan nhw’n cydnabod llywodraeth y Taliban.

“Mae hynny’n gwneud i bobl bryderu am eu dyfodol”, dywedodd.

Gydag oriau yn unig i fynd tan i filwyr yr UDA orfod gadael y wlad, mae’r sefyllfa yn Afghanistan yn parhau’n fregus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.