Person wedi marw wrth i Gorwynt Ida achosi difrod yn Louisiana
30/08/2021
Mae un person wedi marw wrth i Gorwynt Ida gyrraedd talaith Louisiana yn yr UDA.
Yn ôl The Guardian, mae'r corwynt, sydd wedi ei uwchraddio i Gategori 4, wedi effeithio cyflenwad trydan yn New Orleans, gwrthdroi llif yr Afon Mississippi ac achosi toeau tai i ddymchwel.
Cafodd y farwolaeth gyntaf ei chofnodi ar ôl i goeden ddisgyn ar dŷ, yn ôl adroddiadau.
Daw hyn 16 mlynedd ers i Gorwynt Katrina achosi difrod mawr yn Louisiana a Mississippi.
Darllenwch y stori'n llawn yma.