Nicola Sturgeon yn hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif o Covid-19
30/08/2021
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn hunanynysu ar ôl dod i i gysylltiad agos ag achos positif o Covid-19.
Dywedodd y Prif Weinidog, a oedd wedi derbyn ei hail ddos o'r brechlyn yn mis Mehefin, y byddai'n hunanynysu ac yn cymryd prawf PCR.
Yn ôl Sky News, dywedodd Ms Sturgeon ar Twitter ddydd Sul: "Rydw i wedi derbyn neges heno fy mod wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd yn bositif â Covid-19.
"Yn sgil hyn, ac yn unol â'r rheolau, byddaf yn hunanynysu hyd nes y caf ganlyniad prawf PCR.
"Diolch i weithwyr cynllun profi ac olrhain y GIG am eu gwaith caled."
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Llywodraeth yr Alban