Newid i reolau teithio rhyngwladol yn dod i rym
Mae newidiadau i'r system oleuadau traffig llywodraethau'r Deyrnas Unedig ar gyfer teithiau rhyngwladol wedi dod i rym fore Llun.
Fel rhan o'r newidiadau, mae Montenegro a Gwlad Tai yn cael eu hychwanegu i'r rhestr goch.
Mae Denmarc, Lithuania, Y Ffindir, Y Swistir, Liechtenstein, yr Azores, a Canada wedi'u symud i'r rhestr werdd.
Fe gadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, y byddai Cymru yn addasu'r system bresennol yn unol â gwledydd eraill y DU.
Ond, roedd y Gweinidog yn parhau i alw am ofal rhag teithio rhyngwladol heblaw am resymau hanfodol yr haf hwn.
Mewn datganiad ysgrifenedig brynhawn dydd Iau, dywedodd y Gweinidog fod risgiau iechyd cyhoeddus amlwg yn parhau drwy ail-agor teithio rhyngwladol.
Llun: barnyz