Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi buddsoddiad i wella ansawdd aer mewn ysgolion

30/08/2021
Dosbarth ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad mewn technoleg i wella ansawdd aer a diheintio ystafelloedd dosbarth, darlithfeydd a gweithdai.

Daw hyn wrth i ddisgyblion a myfyrwyr baratoi i ddychwelyd ar gyfer tymor newydd yr hydref.

Bydd cyllid ar gyfer mwy na 1,800 o beiriannau diheintio oson a thros 30,000 o synwyryddion carbon deuocsid yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru.

Mae £3.31m yn cael ei ddarparu ar gyfer peiriannau diheintio osôn newydd, i leihau amseroedd glanhau, gwella’r broses ddiheintio a lleihau costau. 

Ar ben hynny, fe fydd £2.58 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer dros 30,000 o beiriannau monitro 'goleuadau traffig' carbon deuocsid, ar gyfer mannau addysgu fel ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd seminar neu ddarlithfeydd.

Mae peiriannau monitro carbon deuocsid yn cynnwys synwyryddion sy'n rhoi arwydd gweledol pan fo ansawdd aer mewnol yn dirywio.

‘Gall dysgwyr barhau i ddysgu gyda'u hathrawon a'u ffrindiau’

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Rwy'n falch y gall dysgwyr ddychwelyd i ystafelloedd dosbarth a darlithfeydd yr hydref hwn gyda llai o gyfyngiadau nag a fu ers misoedd lawer.

“Bydd y buddsoddiad hwn mewn peiriannau monitro carbon deuocsid yn helpu i wella ansawdd aer, a bydd y peiriannau diheintio yn caniatáu i’r ystafelloedd dosbarth gael eu defnyddio i addysgu yn y ffordd arferol eto yn gyflymach. Mae hyn yn cefnogi ein nod cyffredinol o sicrhau y gall dysgwyr barhau i ddysgu gyda'u hathrawon a'u ffrindiau. 

“Ond mae’n rhaid i ni barhau i fod ar ein gwyliadwriaeth oherwydd Covid-19. Bydd y mesurau hyn yn cyd-fynd â’r cyngor cyfredol yn hytrach na’i ddisodli, sy’n cynnwys cynnal hylendid, a golchi dwylo’n drylwyr ac yn amlach nac arfer. 

‘Lleihau lledaeniad y coronafeirws yn sefydliadau addysg yn hynod bwysig’

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Brifysgol Abertawe sefydlu Prosiect Diheintio Ystafelloedd Dosbarth.

Dywedodd Dr Chedly Tizaoui o’r brifysgol, sy’n rhan o’r tîm a ddyluniodd y peiriant diheintio osôn: “Rwy’n hynod falch bod y dechnoleg osôn a ddatblygwyd gennym yma ym Mhrifysgol Abertawe yn mynd i helpu’r ymdrech i gael gwared ar Covid-19 yng Nghymru.

“Mae lleihau lledaeniad y coronafeirws yn ein sefydliadau addysg yn hynod bwysig, fel bod modd i’n plant a’n myfyrwyr ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth.

“Mae osôn yn effeithiol iawn yn erbyn feirws Covid-19 ac, oherwydd ei natur nwyol, mae’n lladd y feirws boed hwnnw yn yr aer neu ar arwynebedd.

“Dengys ein hymchwil y gall adeiladau fod yn weithredol y tu mewn a bod modd ymgorffori’r driniaeth osôn sy’n cael ei datblygu yma i gefnogi glanhau a diheintio adeiladau eraill.”

‘Mae gen i lawer iawn o gonsyrn’

Er hyn, mae Dr Eilir Hughes, sydd wedi bod yn ymgyrchu am bwysigrwydd ansawdd aer yn ystod y pandemig, yn pryderu nad yw’r dechnoleg wedi 'dangos i wneud gwahaniaeth yn lefelau o feirws yn yr aer'.

“’Da ni’n gwybod bod y feirws yn lledaenu ar raddfa uwch pan mae ysgolion ar agor," eglurodd. 

“Mae’r dechnoleg sydd wedi ei gymeradwyo i fesur ansawdd awyru ers blynyddoedd ac mi rydan ni wedi bod yn gwneud hynny yn Ynys Môn ers dechrau’r flwyddyn.  

"Felly, dwi'n cymeradwyo a croesawu'r dechnoleg yma i fod ar gael i holl ysgolion Cymru sydd wedi cael ei ddatgan eisoes yn yr Alban a Lloegr. 

“O ran y diheintyddion osôn, mae gen i lawer iawn o gonsyrn a dwi methu â deall i fod yn onasd sut mae'r penderfyniad yma wedi ei wneud.

“O be' dwi'n deall, mae 'na gyfiawnhad y byddai'r technoleg yma'n helpu i lanhau’r aer, ond dydy’r dechnoleg yma ddim wedi 'i ddangos i wneud gwahaniaeth yn lefelau o feirws yn yr aer.

“Mae’r ffordd y byddwch yn defnyddio’r dechnoleg yma, oherwydd bod yna elfennau peryglus iddo, erbyn yr amser i chi ddefnyddio y peiriannau, mi fuasai awyriad wedi digwydd eisioes ac mae’r feirws wedi mynd.

"Ac hefyd wrth gwrs, mae angen gofyn y cwestiwn dros £3m o fuddsoddiad yn cael ei roi ar y technoleg yma, ac mae isio gofyn y cwestiwn - faint o wahaniaeth neith o i ledaeniad y feirws ac i  ba mor ddiogel fydd ysgolion? 

"Mi fasa'r gwyddoniaeth cyfredol yn nodi y byddai'n annhebygol iawn y byddai hynny. Mi ddylsa ni fod yn defnyddio yr arian yma i sicrhau bod ni'n gwneud yr awyru yn ddigonol, ac mewn ardaloedd lle dydy hynny ddim yn bosib - dod â technoleg arall megis ffilteri a golau UVC i fewn sydd yn helpu'r aer.

"Dydy osôn yn gwneud hynny a mae 'na beryglon 'efo osôn."

'Yn benodol ar gyfer diheintio gofod mewn ardaloedd dan do'

Mewn ymateb i sylwadau Dr Eilir Hughes fodd bynnag, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae'r peiriannau diheintio osôn, a ddatblygwyd trwy Brifysgol Abertawe, yn benodol ar gyfer diheintio gofod mewn ardaloedd dan do.

“Datblygwyd y peiriannau hyn i gyflymu diheintio ystafelloedd dosbarth o ganlyniad i achos o Covid-19 yn unig, ac nid i buro aer mewn ardaloedd dan do.”

Wrth ymateb i'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu teclynnau monitro CO2 a systemau diheintio osôn i bob ysgol, coleg a phrifysgol, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Siân Gwenllïan AS: “Mae cyngor gwyddonol wedi tynnu sylw ers tro at bwysigrwydd ansawdd aer wrth gyfyngu ar drosglwyddo coronafeirws – rydym wedi bod yn galw am fwy o arweiniad ac adnoddau i golegau ysgolion a phrifysgolion ar bwnc awyru ers y llynedd.

“Mae'r ddarpariaeth o declynnau monitro CO2 i sefydliadau addysgol, tra'n hwyr, i'w groesawu, ac mae'n cyd-fynd â gwledydd eraill. Mae'n bwysig bod y mesurau a ddefnyddiwn yn cyd-fynd â'r canllawiau gwyddonol diweddaraf ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i sefydliadau addysgol ar ddefnyddio teclynnau fel systemau diheintyddion osôn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.