Cwynion am y croeso i'r canwr Christy Moore ym mhorthladd Caergybi
Fe wnaeth yr awdurdodau yn Iwerddon gwestiynu penderfyniad swyddogion porthladdoedd y DU i holi’r canwr gwerin poblogaidd Christy Moore yn 2004, yng nghanol cynnydd mewn cwynion tebyg yn ymwneud â mesurau gwrthderfysgaeth.
Dywedodd y canwr ei fod wedi cael ei holi am fwy na dwyawr ar ôl iddo ddod oddi ar fferi o Ddulyn i borthladd Caergybi ym mis Hydref y flwyddyn honno.
Cafodd Moore a’i yrrwr eu holi ar wahân gan yr heddlu yn y porthladd o dan y Ddeddf Atal Terfysgaeth.
Mae'r digwyddiad wedi ei gynnwys mewn dogfen sydd bellach wedi'i chyhoeddi fel rhan o ryddhau manylion ffeiliau o Archifau Cenedlaethol Iwerddon, sy'n digwydd bob blwyddyn.
Mewn datganiad a ryddhawyd trwy ei gyhoeddwr ar y pryd, dywedodd Moore nad oedd yr heddlu wedi archwilio dim o’i offer, ei fagiau na’i gar.
Dywedodd ei bod yn drist meddwl nad oedd y math yma o driniaeth o Wyddelod oedd yn teithio i Brydain yn perthyn i'r gorffennol.
Dywedodd hefyd iddo gael ei holi am eiriau ei ganeuon a chynnwys ei fag dogfennau.
Disgrifiodd y digwyddiad fel un “trwm, aflonyddgar...ac ofnus”, a gwnaeth gŵyn ddiplomyddol ar y pryd am ei driniaeth.
Fe wnaeth swyddogion o Adran Materion Tramor Iwerddon gyfarfod gyda swyddogion Swyddfa Gartref y DU ynglŷn â’r mater yn Llundain ar 1 Rhagfyr, 2004.
Dywedodd y Swyddfa Gartref na fyddent yn gwneud sylwadau ar achosion unigol, ond cododd swyddogion Gwyddelig y mater am “gwestiynau amhriodol a’r difrod y gellir ei wneud pe bai rhywun yn teimlo ei fod yn cael ei holi am hwyl neu o achos chwilfrydedd”.
Mewn ymateb, dywedodd cydlynydd cenedlaethol plismona porthladdoedd y DU, Bob Milton, mai “mater hyfforddiant” oedd yr hyn oedd wedi digwydd.
Mae ffeil yr Adran Materion Tramor yn ychwanegu: “O ran cloi’r ystafell y cadwyd Mr Moore ynddi, roedd Milton o’r farn mai mater i'r swyddog oedd penderfynu a oedd angen cloi ystafell archwilio yn seiliedig ar a oedd y person yn debygol o adael."
Llun: PA