Cip olwg ar benawdau'r bore

25/08/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Mercher, 25 Awst.

Afghanistan: Prydain yn gobeithio cadw'r maes awyr ar agor - Sky News

Mae Prydain yn gobeithio gallu cadw maes awyr ar agor yn Afghanistan wedi i'r milwyr olaf adael y wlad, yn ôl adroddiadau.  Dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn dilyn cynhadledd G7 ddydd Mawrth mae'r flaenoriaeth dros y misoedd nesaf oedd sicrhau bod gan bobl sydd am adael Afghanistan llwybr diogel i wneud hynny wedi 31 Awst.

Brechlynnau Covid-19 yn colli eu heffaith wedi chwe mis - London Evening Standard

Mae’r amddiffyniad y mae brechlynnau Pfizer BioNTech a OxfordAstraZeneca yn ei roi yn erbyn Covid-19 yn dechrau cilio o fewn chwe mis, yn ôl ymchwil newydd.  Gostyngodd yr amddiffyniad ar ôl dwy ddos o Pfizer o 88% wedi un mis, i 74% wedi pump i chwe mis.

Trawsfynydd i fod yn gartref i dechnoleg niwclear unwaith eto? - Nation.Cymru

Gallai Trawsfynydd fod yn gartref i adweithydd niwclear unwaith eto wedi i Lywodraeth Cymru benodi Prif Swyddog Gweithredol newydd ar gyfer ei chwmni niwclear gyda'r bwriad i archwilio'r posibilrwydd.  Mae Mike Tynan, cyn-bennaeth gweithrediadau'r DU gyda'r grŵp peirianneg niwclear Americanaidd Westinghome, wedi ei benodi i arwain Cwmni Egino gyda'r bwriad i adfywio lleoliad Trawsfynydd.

Rob Page: Penderfyniad i symud gêm Belarws yn 'hunllef' - The Guardian

Mae Rob Page, rheolwr dros dro Cymru, wedi cwestiynu penderfyniad UEFA i symud y gêm ragbrofol yn erbyn Belarws ar gyfer pencampwriaeth Cwpan y Byd.  Fe fydd y gêm yn cael ei chwarae yn Rwsia ac, yn ôl Page, fe fydd ei garfan yn wynebu "hunllef logistaidd" arall ar ôl gorfod teithio dros 5,000 o filltiroedd yn ystod ymgyrch Euro 2020.

Profiad 'swreal' rhwyfwr o'r Mwmbwls i gyrraedd Tokyo

Ar ôl dechrau rhwyfo yn 2016, mae athletwr o'r Mwmbwls wedi cael pum mlynedd heb ei thebyg.  Bydd Benjamin Pritchard yn cynrychioli tîm Prydain yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo yng nghategori PR1 eleni.

Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.