Newyddion S4C

Afghanistan: Prydain yn gobeithio cadw'r maes awyr ar agor

Sky News 25/08/2021
S4C

Mae Prydain yn gobeithio gallu cadw maes awyr ar agor yn Afghanistan wedi i filwyr olaf y UDA adael y wlad, yn ôl Sky News.

Dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn dilyn cynhadledd G7 ddydd Mawrth mai’r flaenoriaeth dros y misoedd nesaf oedd sicrhau bod gan bobl sydd am adael Afghanistan lwybr diogel i wneud hynny wedi 31 Awst.

Mae Arlywydd yr UDA, Joe Biden, eisoes wedi dweud na fydd milwyr Americanaidd yn parhau yn Afghanistan wedi'r dyddiad hwnnw.

Mae'r golyfeydd ym maes awyr Kabul wedi bod yn llawn tyndra, wrth i ddegau o filoedd o bobl geisio ffoi o'r wlad ar ôl i'r Taliban gipio grym.

Yn ôl Sky News dywedodd un milwr Prydeinig yn Kabul eu bod nhw methu rheoli'r niferoedd o bobl sy’n cyrraedd y maes awyr, a bod y mwyafrif ddim yn “gymwys i gael gadael".

Cafodd mwy o fanylion am yr ymdrech i ymestyn cefnogaeth i bobl sydd am adael Afghanistan wedi 31 Awst eu cadarnhau pan wnaeth yr ysgrifennydd tramor siarad gydag Aelodau Seneddol.

Dywedodd Dominic Raab wrth ASau fod y llywodraeth am weld maes awyr sy'n parhau i weithio wedi ymadawiad y milwyr, gan awgrymu y gallai hediadau masnachol gludo pobl o'r wlad yn y dyfodol.

Darllenwch y manylion diweddaraf yma.

Llun: UK Prime Minister

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.