Newyddion S4C

Brechlynnau Covid-19 yn colli eu heffaith wedi chwe mis

Evening Standard 25/08/2021
Brechlyn Covid-19

Mae’r amddiffyniad y mae brechlynnau Pfizer BioNTech a OxfordAstraZeneca yn ei roi yn erbyn Covid-19 yn dechrau cilio o fewn chwe mis, yn ôl ymchwil newydd.

Gostyngodd yr amddiffyniad ar ôl dwy ddos o Pfizer o 88% wedi un mis, i 74% wedi pump i chwe mis.

Gostyngodd yr amddiffyniad ar ôl dwy ddos o AstraZeneca o 77% wedi un mis, i 67% o fewn pum i chwe mis.

Adrodda'r Evening Standard fod y canfyddiadau yn rhan o ymchwil gan Zoe Covid, gan ystyried dros 1.2 miliwn o ganlyniadau ac unigolion.

Yn ôl un o wyddonwyr yr ymchwil, y canlyniad gwaethaf fyddai gweld lefelau amddiffyn yn gostwng o dan 50% i bobl hŷn a gweithwyr iechyd erbyn y gaeaf.

Ychwanegodd bod angen gwneud cynlluniau “ar frys” i roi brechlynnau atgyfnerthu.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.