Rob Page: Penderfyniad i symud gêm Belarws yn 'hunllef'
Mae Rob Page, rheolwr dros dro Cymru, wedi cwestiynu penderfyniad UEFA i symud y gêm ragbrofol yn erbyn Belarws ar gyfer pencampwriaeth Cwpan y Byd.
Fe fydd y gêm yn cael ei chwarae yn Rwsia ac, yn ôl Page, fe fydd ei garfan yn wynebu "hunllef logistaidd" arall ar ôl gorfod teithio dros 5,000 o filltiroedd yn ystod ymgyrch Euro 2020.
Fe fydd y gêm ar 5 Medi, sy'n cael ei chwarae heb dorf, yn cael ei chynnal mewn lleoliad niwtral gan fod timoedd o'r DU a'r UE yn methu hedfan i Belarws oherwydd cosbau yn erbyn y llywodraeth.
Dywedodd Page fod ymdrechion Cymru i apelio'r penderfyniad yn aflwyddiannus ac fe fydd yn rhaid i'r tîm baratoi ar gyfer taith 4,000 milltir rhwng y siwrnai yno ac yn ôl, adrodda The Guardian.
Dywedodd Page: "Yn gyntaf oll rydym yn cydymdeimlo gyda'r Belarwsiaid, wrth gwrs. Ond mae ei drefnu o safbwynt ariannol a logistaidd yn hunllef".
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans