Profiad 'swreal' rhwyfwr o'r Mwmbwls i gyrraedd Tokyo
Ar ôl dechrau rhwyfo yn 2016, mae athletwr o'r Mwmbwls wedi cael pum mlynedd heb ei thebyg.
Bydd Benjamin Pritchard yn cynrychioli tîm Prydain yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo yng nghategori PR1 eleni.
Cychwynnodd rwyfo ar ôl damwain beic ym mis Medi 2016 a wnaeth ei adael wedi’i barlysu o’i ganol i lawr.
Yn ystod ei amser yn y ganolfan anafiadau asgwrn cefn cenedlaethol yn Ysbyty Stoke Mandeville, dechreuodd rwyfo dan do, yno cafodd ei ddarganfod gan staff Rhwyfo Prydain.
‘Profiad anghygoel’
Dyma dro cyntaf Pritchard yn y Gemau Paralympaidd, ac mae’n gobeithio bydd yn ennill ei le ar y podiwm.
“Ni allaf ddisgrifio pa mor hapus ydw i fy mod allan yn Tokyo ar hyn o bryd. Rwy'n teimlo fel plentyn mewn siop da-da.
“Mae rhannu ffreutur gydag athletwyr rwyf wedi eu gwylio ar y teledu a’u hedmygu yn brofiad swreal, a rŵan gallaf eu galw’n gyd-rwyfwyr. Mae'n brofiad anhygoel ac rwy’n mwynhau pob cyfle. ” “Mae pob athletwr yn dod i’r Gemau Paralympaidd i ennill. Ni fyddem yn athletwyr heb y meddylfryd cystadleuol hwn.
“Nod realistig i mi yw lle ar y podiwm… a dyna rwy’n anelu at ei gyflawni.
“Rwy'n credu mai'r peth mwyaf i rywun sydd yno am y tro cyntaf, yw sicrhau eich bod yn mwynhau pob cyfle oherwydd efallai mai dyma fydd y tro cyntaf neu’r tro olaf i chi fod yma.
“Felly rwy’n gwneud yn siŵr fy mod yn cymryd rhan o bob diwrnod i fwynhau fy hun".
Gobeithion i’r dyfodol
“Rwy’n canolbwyntio ar Tokyo yn y tymor byr ac wedyn rwy’n bwriadu gorffwys ac ymlacio ychydig.
“Rwy’n siŵr y bydd fy nyweddi yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwneud rhywfaint o’r gwaith paratoi at ein priodas, a gafodd ei ohirio, ac rwy’n edrych ymlaen at dreulio amser gyda fy ffrindiau a’m teulu.
“Mae Covid wedi golygu fy mod wedi gorfod blaenoriaethu fy nod o gyrraedd Tokyo dros dreulio amser gyda’m ffrindiau a’m teulu".
Cyn ei ddamwain astudiodd yr athletwr radd yn y gyfraith ym mhrifysgol Bangor, gan ennill sawl gwobr yno wrth chwarae hoci, seiclo, pêl-droed Gaeleg a bod yn rhan o dîm treiathlon.
Mae Pritchard yn gobeithio darparu bwrsariaeth i athletwr chwaraeon yn y brifysgol.
“Fy nod yn y tymor hir yw darparu bwrsariaeth i athletwr chwaraeon yn y brifysgol gan fy mod yn ffodus iawn o fod wedi derbyn Gwobr Goffa Llew Rees, a buaswn wrth fy modd yn rhoi cyfle i athletwr ifanc ddatblygu ei grefft fel y cefais innau’r cyfle i wneud yn y brifysgol.”
Mae’r Gemau Paralympaidd yn cael eu cynnal rhwng 24 Awst a 5 Medi yn Tokyo.
Llun: Paralympics GB