Trawsfynydd i fod yn gartref i dechnoleg niwclear unwaith eto?
Gallai Trawsfynydd fod yn gartref i adweithydd niwclear unwaith eto wedi i Lywodraeth Cymru benodi Prif Swyddog Gweithredol newydd ar gyfer ei chwmni niwclear gyda'r bwriad i archwilio'r posibilrwydd.
Mae Mike Tynan, cyn-bennaeth gweithrediadau'r DU gyda'r grŵp peirianneg niwclear Americanaidd Westinghome, wedi ei benodi i arwain Cwmni Egino gyda'r bwriad i adfywio lleoliad Trawsfynydd, dywed Nation.Cymru.
Mae Trawsfynydd eisoes yn gartref i orsaf niwclear Magnox sydd bellach wedi ei datgomisiynu ar ôl bod yn weithredol rhwng 1965 a 1991.
Yn ôl y Financial Times, bydd Mike Tynan a Chwmni Egino yn ystyried y buddion economaidd posib o leoli adweithydd bach yn Nhrawsfynydd.
Mae llywodraethau Cymru a'r DU yn ystyried yr adweithyddion bach fel rhan bwysig er mwyn cyflawni targedau carbon net-sero erbyn 2050.
Darllenwch fwy ar y stori yma.
Llun: Jim Killock (drwy Flikcr)