Pont y Borth: Galw am gymorth i fusnesau sydd wedi 'dioddef yn enbyd'

Cyngor Môn - Pont Menai

Mae galwadau am ragor o gefnogaeth i fusnesau mewn un dref yn Ynys Môn, sydd wedi “dioddef yn enbyd” ar ôl i Bont Menai gael ei chau yn fyr rybudd yn gynharach yn y mis.

Cafodd Pont y Borth, sef un o ddwy bont sy'n cysylltu Ynys Môn gyda'r tir mawr, ei chau ar frys ar 4 Hydref.

Daeth y penderfyniad i gau’r bont ar ôl i Lywodraeth Cymru ddilyn "cyngor brys" gan beirianwyr strwythurol, wedi i archwiliad ddarganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont.

Cafodd y bont ei hail-agor yn rhannol ar 10 Hydref i geir, cerddwyr a beicwyr, gyda dim ond cerbydau yn pwyso’n llai na thair tunnell yn cael croesi'r bont, a mesurau traffig mewn lle.

Mae’r bont bellach yn agored i’r ddau gyfeiriad, gyda therfyn pwysau o 7.5 tunnell mewn lle i gerbydau.

Yn gynharach fis yma, fe ddywedodd perchnogion busnes ym Mhorthaethwy wrth Newyddion S4C bod cau’r bont wedi achosi problemau traffig ac effeithio ar drefniadau busnes a theithio staff.

Dywedodd Jane Walsh, perchennog bwyty Plus39 bod problemau traffig wedi effeithio ar fusnes ac ar drefniadau teithio staff.

“Mae pawb yn siomedig iawn bod nhw ddim wedi ffeindio hyn yn gynt. Da ni di cael y bont ar gau am dipyn o’r blaen ac mae o di rili effeithio’r dref.

“Bore ma’, does 'na neb yma. Da ni’n rili brysur yn y bore fel arfer ond dan ni ddim heddiw.”

‘Pryderu’

Mae cyfarfod brys o Gyngor Sir Ynys Môn bellach wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mawrth i drafod “gwytnwch” y ddwy bont sy’n croesi’r Fenai – sef Pont y Borth a Phont Britannia.

Mae cynghorwyr wedi cyhuddo’r Llywodraeth o “ddiffyg dal y contractwyr” sydd yn gyfrifol am y bont “i gyfrif.”

Cwmni UK Highways A55 Ltd sydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r ddwy bont ar ran y Llywodraeth.

Fe fydd Pont y Borth yn dathlu 200 mlynedd ers ei hagor yn swyddogol yn Ionawr 2026.

Fel rhan o’r cynnig yn y cyfarfod brys, dywedodd y Cynghorydd Sonia Williams: “Mae’r Cyngor yma yn pryderu yn ddybryd am ddiffyg gwytnwch y ddau groesiad presennol dros Y Fenai sydd wedi ei amlygu unwaith eto wrth i Bont y Borth orfod cau yn gyfan gwbl unwaith yn rhagor gan adael un croesiad yn unig. 

Image
Y Cynghorydd Sonia Williams
Y Cynghorydd Sonia Williams

“Rydym hefyd yn datgan siom yn Llywodraeth Cymru am eu diffyg i ddal y contractwyr i gyfrif ac am eu hamharodrwydd i ystyried y cysylltiadau rhwng Môn a’r tir mawr a’r effaith ar drigolion a chymunedau'r Ynys.

“Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gamu i mewn i gynnig cymorth i fusnesau tref Porthaethwy sydd wedi dioddef llawer oherwydd yr holl broblemau efo'r Bont dros y 3 mlynedd diwethaf.

“Mae busnesau lletygarwch yn enwedig yn dioddef yn enbyd gan fod y bont ar gau dros nos.”

'Rhwystredigaeth'

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn annog busnesau i ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw gan wasanaeth Busnes Cymru.

Fe ychwanegodd llefarydd: “Fe wnaeth Pont Menai ailagor i draffig i’r ddwy ffordd gyda therfyn pwysau o 7.5 tunnell ar waith fore Gwener, ar ôl cwblhau gwaith dros dro i fynd i’r afael â phroblem gyda nifer o folltau ar y trawstiau.

“Bydd gwaith nawr yn mynd rhagddo ar ddatrysiad parhaol, a fydd yn hwyluso cymal nesaf y gwaith.

“Rydym yn deall rhwystredigaeth y gymuned leol a byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd.

“Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd yn ystod y gwaith diweddar, ac yn diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd a’u cydweithrediad.

“O ran cydnerthedd ehangach croesfannau Menai, mae nifer o argymhellion yn cael eu hystyried ymhellach ar gyfer Pont Britannia, gan gynnwys strwythurau i ddargyfeirio gwynt.”

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan UK Highways A55 Ltd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.