Cwestiynau newydd am farwolaeth dynes 78 oed dros 40 mlynedd ers ei llofruddiaeth
Mae cwestiynau newydd wedi codi am farwolaeth ymgyrchydd gwrth-niwclear 78 oed fwy na 40 mlynedd ers ei llofruddiaeth.
Cafodd corff Hilda Murrell ei ddarganfod mewn coedwig ar gyrion yr Amwythig ar 24 Mawrth 1984, dridiau ar ôl ei diflaniad.
Yn dilyn adolygiad o’r achos bron ugain mlynedd ers ei llofruddiaeth, a gyda help datblygiadau technoleg DNA, cafodd Andrew George ei ddedfrydu yn 2005 i o leiaf 13 mlynedd o dan glo ac mae’n parhau i fod yn y carchar hyd heddiw.
Roedd George yn 16 oed adeg llofruddiaeth Hilda Murrell ac mae rhai, gan gynnwys teulu Hilda, wedi codi cwestiynau am ei euogrwydd.
Ers blynyddoedd lawer, mae amheuon ynghylch y llofruddiaeth, gyda rhai yn amau bod y gwasanaethau cudd yn gysylltiedig â’i marwolaeth.
Mewn rhaglen ddogfen Pwy laddodd Hilda Murrell? a fydd yn cael ei darlledu ar S4C mewn dwy ran ar 28 a 29 Hydref am 21.00, mae teulu Hilda yn datgelu gwybodaeth newydd am ei llofruddiaeth.
Honnodd y cyn-Aelod Seneddol Tam Dalyell bod y gwasanaethau cudd ynghlwm â marwolaeth Hilda ac mae ei theulu nawr yn dweud mai cyn-swyddog MI6 enwog a phrofiadol oedd un o ffynonellau Mr Dalyell.
'Anodd'
Fe fydd y rhaglen yn archwilio sawl theori sy’n gysylltiedig â llofruddiaeth Hilda Murrell, gan gynnwys ei bod hi wedi dod ar draws manylion cyfrinachol am suddo’r llong rhyfel, y Belgrano yn ystod Rhyfel y Falklands.
Roedd ei nai, Robert Green, yn bennaeth yn y Llynges, gyda rhai yn honni iddo fod yn allweddol i suddo’r Belgrano, ond mae Mr Green yn mynnu nad oedd yn rhan o’r penderfyniad hwnnw.
Yn y rhaglen mae Robert Green, yn cofio’r diwrnod y clywodd am farwolaeth ei fodryb.
“Ces i alwad ffôn fod Hilda ar goll ac yna daeth yr heddlu i gyswllt â fi nes ymlaen yr un diwrnod a dweud eu bod wedi darganfod ei char, a’u bod wedi darganfod corff," meddai.
"Aethom ni i farwdy y prynhawn hwnnw lle adnabyddais i gorff Hilda."
Gan amau nad Andrew George oedd yn gyfrifol am lofruddiaeth Hilda Murrell, dechreuodd Mr Green, a’i wraig Dr Kate Dewes, ymchwilio i’r achos eu hunain ar ôl i’r achos llys ddod i ben.
Dywedodd Dr Dewes: “Doedd dim datganiadau gan dystion oedd yn dweud bod bechgyn ifanc yn cerdded o gwmpas y strydoedd, curo ar ddrysau a cheisio’u bwrglera, a fyddai’n cydfynd â disgrifiad Andrew George.”
'Dal ddim yn glir'
Yn 1983, blwyddyn cyn llofruddiaeth Hilda Murrell, sefydlodd y Weinyddiaeth Amddiffyn uned arbenigol o swyddogion MI5, y Defence Secretariat 19, i darfu ar ymgyrchoedd di-arfogi niwclear a mudiadau oedd yn gwrthwynebu ehangu’r diwydiant ynni niwclear.
Mae’r rhaglen hefyd yn archwilio’r posibilrwydd bod y gwasanaethau cudd yn ymchwilio i gefndir Mrs Murrell fel ymgyrchydd gwrth-niwclear blaenllaw.
Ar y pryd roedd hi yn y broses o ysgrifennu papur ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus i ddatblygiad yr orsaf ynni niwclear Sizewell B yn nwyrain Lloegr.
Yn ôl David Williams, un o’r newyddiadurwyr fu’n dilyn y stori ar y pryd, mae yna gwestiynau yn parhau am yr hyn ddigwyddodd i Hilda Murrell.
“Dwi’n teimlo, ar ôl yr holl amser yma, dwi dal ddim yn glir yn fy meddwl be’ ‘di’r gwir," meddai.
"Dwi’n meddwl bod un person yn gwbod be’ ‘di’r gwir, a’r person yna ‘di Andrew George. Mae o’n gwbod. Mae o’n gwbod pwy oedd yn y tŷ felly, yn dydi?
"Ac os oedd ‘na rywun yn y tŷ heblaw fo, dyna’r bobl sydd yn gwbod y gwir.”
Bydd y rhaglen, Pwy Laddodd Hilda Murrell? sydd yn rhan o arlwy Trosedd S4C, yn cael ei darlledu ar 28 a 29 Hydref am 21.00.
Bydd hefyd ar gael i’w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer, gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.