Cyn AS wedi gadael ei swydd ar ôl i sylwadau ar-lein effeithio arni hi a'i theulu
Mae'r cyn Aelod o'r Senedd Kirsty Williams wedi siarad yn emosiynol am ei phenderfyniad i adael ei swydd ar ôl i sylwadau ar-lein effeithio arni hi a'i theulu.
Ym mis Hydref 2020 fe benderfynodd y cyn Weinidog Addysg o'r Democratiaid Rhyddfrydol beidio â sefyll ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021.
Wrth siarad yn ddiweddar ar bodlediad yr Aelod o'r Senedd Lee Waters, Y Pumed Llawr, dywedodd Ms Williams nad oedd hi'n gallu goddef yr effaith roedd sylwadau ar-lein yn eu cael ar aelodau ei theulu.
"Dwi'n poeni. Dwi'n poeni ei fod yn normal nawr, bod pobl sydd yn mynd am y swydd [fel Aelod o'r Senedd] yn derbyn mai fel hyn bydd rhaid iddynt fyw eu bywydau," meddai.
“Dydy e ddim yn bleserus, ydy e? Mae wir yn gwneud i chi deimlo'n drist, chi fel unigolyn neu’n waeth na hynny, mae gennych chi deulu.
"Ac i fi, dyna oedd y diwedd. Doeddwn i ddim yn gallu rhoi fy nheulu drwyddo mwyach."
Dywedodd cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig nad oedd hi'n sylweddoli'r effaith gafodd y sylwadau ar ei theulu tan iddi siarad â nhw yn ddiweddar am ddechrau yn ei rôl fel Cadeirydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
"Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor ddrwg oedd fy nheulu wedi’u heffeithio tan gwpl o wythnosau yn ôl pan ddywedais fy mod i’n mynd i gymryd y swydd yng Nghaerdydd ac ar unwaith roedd 'na bobl yn ôl allan yna’n dweud wrth bawb pa mor ofnadwy oeddwn i.
“Ac roedd fy merched yn dweud 'peidiwch â chymryd y swydd, allwn ni ddim mynd trwy hyn eto'."
'Hyfforddiant'
Mae gan y Senedd camau mewn lle i gynorthwyo Aelodau'r Senedd pan maen nhw'n derbyn sylwadau ar-lein.
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd wrth Newyddion S4C eu bod yn cynnig hyfforddiant i aelodau, gan gynnwys diogelwch ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Nid oes lle i gamdriniaeth mewn gwleidyddiaeth.
"Mae Comisiwn y Senedd yn cymryd diogelwch a lles yr holl Aelodau, staff a rhanddeiliaid eraill o ddifri'.
"Gall Aelodau a'u staff cymorth gael mynediad at ystod gynhwysfawr o offer, canllawiau a chymorth gan dîm diogelwch y Senedd, ac mae hyn yn cael ei adolygu'n gyson wrth ymateb i heriau sy'n esblygu.
"Mae hyfforddiant ar ystod o faterion diogelwch, gan gynnwys diogelwch ar-lein a diogelwch personol, hefyd ar gael i Aelodau a'u staff."
'Anfaddeuol'
Pan adawodd Kirsty Williams ei swydd cyn etholiad y Senedd yn 2021 dywedodd ei fod yn benderfyniad a wnaeth gymryd "llawer o feddwl."
Nid hi yw'r unig wleidydd i gamu lawr fel AS oherwydd sylwadau ar-lein.
Dywedodd Lee Waters ei fod wedi camu lawr "am resymau tebyg" a'i fod ond yn gallu dioddef sylwadau amdano ar-lein "am gyfnod penodol."
Credai Kirsty Williams bod ceisio recriwtio gwleidyddion yn yr hinsawdd bresennol yn un o'r "heriau mwyaf."
"Dyw bod yn wleidydd ddim yn waeth neu'n well na sawl swydd arall," meddai.
"Dwi'n meddwl bod bodolaeth y cyfryngau cymdeithasol a'r hyn mae pobl yn delio gydag yn anfaddeuol.
"A pan chi'n meddwl amdano, byddai'r bobl fwyaf synhwyrol ac iawn eu meddwl yn rhedeg milltir rhag rhoi ei hunain mewn swydd fel hyn."
Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn credu mai’r bobl sy’n gallu goddef hynny a’i anwybyddu yw'r rhai sydd eu hangen arnoch chi yn yr amgylchedd gwleidyddol i gyflawni pethau.
“Ac rwy’n credu mai’r bygythiad mwyaf, yn fy marn i, i’n democratiaeth ryddfrydol yw’r math o bobl y gallwn ni eu recriwtio a’u cadw yn y byd gwleidyddol."