'Braint': Manon Steffan Ros i gyflwyno rhaglen gelfyddydol Radio Cymru

Manon Steffan Ros

Manon Steffan Ros fydd cyflwynydd newydd rhaglen gelfyddydol Radio Cymru bob prynhawn dydd Sul o ddiwedd mis Ionawr.  

Daw ei phenodiad wrth i Ffion Dafis gamu i mewn i’w rôl newydd fel cyfarwyddwr artistig cwmni Theatr Bara Caws ym mis Ionawr.

Yn un o awduron amlycaf Cymru, mae Manon wedi derbyn gwobrau lu am ei gwaith fel nofelydd a dramodydd. 

Mae hi hefyd yn adnabyddus fel colofnydd, cyflwynydd a chantores.

Mewn datganiad, dywedodd ei bod yn "fraint" i gael cyflwyno'r rhaglen.

"Dwi wedi bod yn gweithio yn y celfyddydau ers 20 mlynedd a mwy, mewn sawl gwahanol rôl: actio, canu, creu celf gweledol, a ’sgwennu, wrth gwrs, a dwi’n edrych ymlaen at barhau i greu tra ‘mod i hefyd yn cael yr anrhydedd o gyflwyno rhaglen radio am bethau ’gin i ddiddordeb mawr ynddyn nhw," meddai.

Fe aeth ymlaen i ddweud bod radio wedi bod yn "gwmni parhaus" iddi dros y blynyddoedd.

"Dwi wastad yn gwrando, un ai ar radio byw neu bodlediadau, ac yn teimlo ‘mod i’n dysgu gymaint o’r cyfrwng," meddai.

'Cam cyffrous i'r orsaf'

Fe gafodd Manon ei magu yn Rhiwlas, ger Bangor, ac mae hi bellach yn byw yn Nhywyn.

Dywedodd bod Radio Cymru wedi bod yn "linyn cyswllt hollbwysig" iddi gyda'i diwylliant.

"Dwi'n ymwybodol, fel rhywun sy’n byw mewn tref sy’ efo canran cymharol fach o siaradwyr Cymraeg, fod BBC Radio Cymru wedi bod yn linyn cyswllt hollbwysig i mi efo fy niwylliant. Mae hynny’n wir efo gymaint o bobol yma yng Nghymru a thu hwnt," meddai.

"Mae hyn i gyd yn golygu fod cael y cyfle i fod yn dîm Radio Cymru yn fraint arbennig i mi, achos dwi’n teimlo’n ran o’r teulu, fel gwrandäwr, ers dwi’n cofio!"

Yn ôl Dafydd Meredydd, golygydd Radio Cymru, mae penodiad Manon yn "gam cyffrous i'r orsaf".

"Dwi’n falch iawn o allu croesawu Manon Steffan Ros i sedd y cyflwynydd – awdur a cherddor uchel ei pharch a fydd yn dod â’i llais unigryw a'i stamp ei hun i’r rhaglen," meddai.

"Mi fydd hi yn mynd a gwrandawyr i bob congl o Gymru, ac yn dathlu ac adlewyrchu beth ydy bod yn greadigol heddiw."

Bydd Manon yn cyflwyno ei rhaglen gyntaf ar ddydd Sul, 25 o Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.