Rhybuddion am lifogydd mewn rhannau o Gymru dros y dyddiau nesaf

14/12/2025
Rhybudd tywydd 14 Rhagfyr

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y bydd glaw trwm yn arwain at lifogydd mewn rhannau o Gymru dros y dyddiau nesaf.

Daw wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd oren a sawl rhybudd melyn am law trwm i rai ardaloedd o'r wlad.

Bydd y rhybudd melyn cyntaf yn dod i rym am 18.00 brynhawn Sul ac yn parhau tan 15.00 ddydd Llun, gan effeithio ar y gogledd a'r canolbarth.

Mae'r siroedd canlynol wedi'u cynnwys yn y rhybudd yma: Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Powys a Sir Ddinbych.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 30-40 mm o law ddisgyn mewn nifer o ardaloedd, gyda dros 100 mm yn disgyn ar dir uwch.

Bydd rhybudd melyn am law hefyd yn effeithio ar Wrecsam a Sir y Fflint tan 23.59 ddydd Llun.

O ganlyniad maen nhw'n rhybuddio y gallai rhai mannau ddioddef llifogydd.

'Perygl i fywyd'

Bydd y trydydd rhybudd melyn yn dod i rym am 00.00 ddydd Llun ac yn parhau tan 23.59 y diwrnod hwnnw.

Bydd yn effeithio ar siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro a Sir Gâr.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd gall hyd at 30-55 mm o law ddisgyn mewn nifer o ardaloedd, gyda 75-100 mm yn disgyn ar dir uwch.

Ond bydd y tywydd yn gwaethygu i siroedd y de orllewin oriau'n ddiweddarach, gyda rhybudd oren yn dod i rym am 03.00 ddydd Llun ac yn parhau tan 21.00.

Bydd y rhybudd oren am law yn effeithio ar siroedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro a Sir Gâr.

Mae'n debygol y bydd yr ardaloedd yma yn gweld 50-80 mm o law yn disgyn, gyda rhai ardaloedd yn gweld hyd at 100 mm.

Ac o ystyried y tywydd gwlyb diweddar mewn rhannau o'r de, mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod y tebygolrwydd o broblemau yn uwch.

"Mae dŵr llifogydd sy'n llifo'n gyflym neu'n ddwfn yn debygol, gan achosi perygl i fywyd," meddai llefarydd ar ran y swyddfa.

Gall y glaw achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n debygol y gallai effeithio ar gyflenwadau pŵer hefyd.

Daw hyn yn dilyn cyfres o rybuddion ar ddechrau'r wythnos, gan gynnwys rhybudd oren am law yn y de yn sgil Storm Bram.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.