Goleuo cartrefi Cymru ar gyfer Nadolig 2025

Goleuo cartrefi Cymru ar gyfer Nadolig 2025

Mae teuluoedd ar draws Cymru yn mynd i ymdrech fawr bob blwyddyn i addurno eu cartrefi gyda gwahanol addurniadau Nadolig, gyda rhai yn gweld y cyfle i gasglu arian at elusennau ac achosion da yn y broses.

Mae un teulu o Abersoch yng Ngwynedd yn dechrau paratoi eu goleuadau mor gynnar â mis Hydref bob blwyddyn, a hynny gan fod 'miloedd' o fylbiau bach LED angen eu gosod.

Gobaith Lee ac Angela Jones, yn ogystal â chynnig rhywbeth i'r gymuned leol yn Abersoch i'w fwynhau, yw codi gymaint o arian ag sydd bosib ar gyfer elusen sy'n agos at eu calon.

Dywedodd Angela Jones, sy'n byw ar Lôn Gwydryn yn Abersoch, fod addurno’r tŷ yn dod ag "ysbryd y Nadolig i'r pentref, yn ogystal â bod yn gyfle i gasglu arian ar gyfer elusen."

"Mae pobl yn bod yn garedig iawn," meddai Ms Jones.

"Mae pobl yn dod o bell ag agos i weld y goleuadau, a bellach dan ni wedi gosod bwced wrth y giât ffrynt, fel bod pobl yn gallu cyfrannu at elusen os ydy nhw'n dymuno gwneud hynny.

Image
Gola Dolig

Dywedodd Ms Jones, eu bod fel teulu wedi penderfynu rhoi'r arian sy'n cael ei gasglu i elusen Tŷ Gobaith, sy'n darparu cymorth ysbaid i deuluoedd sydd â phlant gydag anableddau dwys yng ngogledd Cymru.

"Llynadd roedda ni wedi llwyddo i gasglu bron i £1,300 i Tŷ Gobaith."

"Mae o jyst wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn," eglurodd Lee Jones wrth Newyddion S4C. "Dwi ‘di bod yn neud hyn ers tua 15 years 'wan, ma’ siŵr, dan ni ‘di buildio fyny yn slo’ bach."

Image
Gola Dolig
Fe eglurodd Lee, ei fod allan ym mhob tywydd yn cynnal a chadw'r goleuadau, ond ei fod wedi bod allan yn amlach yn fwy diweddar oherwydd y stormydd a'r tywydd garw.
 
"Ma’n cymryd ryw fis i roi nhw fyny, bob diwrnod jest, allan yn bob tywydd, saith yn bora tan saith yn nos,
 
"Fydda i’n dechra clirio trwyddyn nhw mis Hydref jyst i weld be’ sy’ ‘na a be’ sydd isio’i drwsio." Ond ar ddechrau Tachwedd mae Lee yn dechrau gosod yr addurniadau o amgylch y tŷ.
Image
Gola Dolig
Mae Lee ac Angela wedi gorfod buddsoddi mewn siediau newydd yn yr ardd, fel bod digonedd o le i gadw’r holl addurniadau o un flwyddyn i’r llall.
 
"Yn y siedia' dwi'n cadw nhw i gyd, ac ma’ ‘na un sied yn benodol ar gyfer trwsio a chadw spares a bob dim.
 
“Dwi’n meddwl bo’ ni wedi cyrraedd y limit flwyddyn diwethaf, pan chwythodd y circuit i gyd. Felly blwyddyn yma, dwi wedi gorfod rhoi nhw i gyd ar timers gwahanol, fel bo nhw ddim i gyd yn dod on ‘run pryd, ac yn achosi i’r fuse dripio eto."
Image
Gola Dolig
Fe eglurodd Lee fod pobl yn teithio o bell ac agos i weld y goleuadau. "Ma’ nhw'n deud bo’ nhw’n dod o bell, ac ma’r internet a social media yn neud dipyn o wahaniath, ma’ pobl yn dod allan am y noson jyst i weld nhw, a chael trip out ‘lly."
 
Mae amrywiaeth y goleuadau yn eang, ac yn cynnwys dynion eira, sawl Siôn Corn, golygfa o Ddrama'r Geni, ond yn ôl Lee, mae un congl o'u gardd yn denu mwy o sylw na'r gweddill.
 
"Mae pawb sy'n dod yma yn licio mynd i gael tynnu llun, o flaen y teddy bears, ma’ hwnna reit famous 'ma'... gafon ni Ffair ’Dolig dros weekend dwytha ag o’dd ‘na blismon a bob dim yn sefyll o’i flaen o’n cael tynnu llynia ac yn ymuno yn yr hwyl."
Image
Gola Dolig

Goleuadau eraill ar draws Cymru

Mae cartrefi ar draws Cymru hefyd yn mynd i'r un ymdrech ac yn ymuno yn ysbryd y Nadolig yn yr un modd. 

Dyma ddetholiad o luniau, ac os hoffech chi yrru lluniau o'ch addurniadau chi, anfonwch nhw ar ebost at newyddion@s4c.cymru .

Image
Gola Dolig
Caernarfon
Image
gola
Hen Golwyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.