Traeth Bondi: Rabi o Brydain ymhlith y 16 fu farw ar ôl saethu mewn dathliad Iddewig
Traeth Bondi: Rabi o Brydain ymhlith y 16 fu farw ar ôl saethu mewn dathliad Iddewig
Mae 16 o bobl, gan gynnwys rabi o Brydain, wedi marw a 40 wedi'u hanafu yn dilyn achos o saethu mewn dathliad Iddewig ar Draeth Bondi yn Sydney, Awstralia.
Dywedodd Heddlu De Cymru Newydd bod y saethu wedi digwydd yn ardal Parc Archer y traeth poblogaidd am 18.47 amser lleol ddydd Sul.
Mae'r ymosodiad wedi'i ddatgan yn ddigwyddiad terfysgol a oedd yn targedu dathliad Hanukkah ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl Iddewig.
Mae'r rabi Eli Schlanger, a oedd yn wreiddiol o Lundain ac yn rabi cynorthwyol yn Chabad Bondi, wedi cael ei enwi fel un o'r bobl a gafodd eu lladd.
Cafodd y tad i bump o blant ei fagu yng ngogledd Llundain ac roedd ganddo aelodau o’i deulu yn Synagog Kinloss yn Finchley, yn ôl Jewish News.
Roedd y dyn 41 oed a’i wraig, Chayala, wedi dathlu genedigaeth eu plentyn ieuengaf, bachgen bach, ddau fis yn ôl.
Dywedodd ei gefnder, y Rabbi Zalman Lewis o Brighton, wrth Jewish News: "Sut gall rabi llawen a aeth i draeth i ledaenu hapusrwydd a golau, i wneud y byd yn lle gwell, gael ei fywyd wedi dod i ben fel hyn?"
'Ymosodiad erchyll'
Mewn cynhadledd i’r wasg, mae Chris Minns, pennaeth Heddlu De Cymru Newydd wedi disgrifio'r digwyddiad fel "ymosodiad erchyll".
"Cafodd yr ymosodiad hwn ei gynllunio i dargedu cymuned Iddewig Sydney ar ddiwrnod cyntaf Hanukkah, yr hyn a ddylai fod wedi bod yn noson o heddwch a llawenydd a ddathlwyd yn y gymuned honno gyda theuluoedd a chefnogwyr, wedi’i chwalu gan yr ymosodiad erchyll hwn," meddai.
Fe gadarnhaodd Mr Minns fod un o’r dynion arfog wedi’i ladd tra bod y llall yn cael ei gadw yn y ddalfa.
"Mae ein calonnau yn gwaedu dros gymuned Iddewig Awstralia heno," meddai.
Fe gafodd Ahmed al Ahmed, tad i ddau o blant o Sydney, ei ganmol gan yr heddlu am daclo un o’r dynion arfog cyn tynnu'r gwn oddi wrtho.
Mae fideo a gafodd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos y saethwr yna’n symud i ffwrdd.
Mae teulu'r perchennog siop ffrwythau 43 oed yn dweud ei fod yn yr ysbyty gydag anafiadau i’w fraich a’i law.
Dywedodd Malcolm Lanyon, comisiynydd Heddlu De Cymru Newydd, fod dau blismon ymhlith y rhai sydd wedi'u cludo i ysbytai yn Sydney.
Fe aeth ymlaen i ddweud bod "sawl dyfais ffrwydrol" wedi’u darganfod mewn car yn Nhraeth Bondi a oedd yn gysylltiedig â’r saethwr sydd wedi marw.
Ychwanegodd fod yr awdurdodau wedi bod yn ymwybodol o'r saethwr sydd wedi marw, ond nad oedd unrhyw "fygythiad penodol".
"Pe bai gan yr heddlu wybodaeth fod risg i’r gymuned neu i’r digwyddiad hwn, byddem wedi cymryd camau sylweddol," meddai.
Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o drydydd saethwr.
'Nid oes lle i gasineb'
Dywedodd Prif Weinidog Awstralia, Anthony Albanese, mewn cynhadledd i'r wasg fore Sul fod yr ymosodiad wedi "taro calon ein cenedl".
"Dyma ymosodiad wedi'i dargedu ar Awstraliaid Iddewig ar ddiwrnod cyntaf Hanukkah, a ddylai fod yn ddiwrnod o lawenydd, yn ddathliad o ffydd," meddai.
"Gweithred o ddrwg, gwrth-Semitiaeth, terfysgaeth sydd wedi taro calon ein cenedl, mae ymosodiad ar Awstraliaid Iddewig yw ymosodiad ar bob Awstraliad, a bydd pob Awstraliad heno fel fi, wedi'i ddinistrio gan yr ymosodiad hwn ar ein ffordd o fyw."
Ychwanegodd: "Nid oes lle i'r casineb, y trais a'r terfysgaeth hwn yn ein cenedl. Gadewch i mi fod yn glir, byddwn yn ei ddileu.
"Yng nghanol y weithred ffiaidd hon o drais a chasineb bydd moment o undod cenedlaethol yn dod i'r amlwg lle bydd Awstraliaid ar draws y bwrdd yn cofleidio eu cyd-Awstraliaid o ffydd Iddewig ar yr adeg dywyll hon i'n cenedl.
"Mae ein heddlu a'n hasiantaethau diogelwch yn gweithio i ddod o hyd i unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r gwarthusrwydd hwn."
Mae Ysgrifennydd Tramor y DU, Yvette Cooper, wedi dweud wrth unrhyw un o Brydain a gafodd eu dal yn y digwyddiad i gysylltu â'r gonswliaeth am gefnogaeth.
"Mae'r golygfeydd o Draeth Bondi yn hynod o syfrdanol ac yn ofidus," meddai mewn datganiad ar X.
"Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi'u heffeithio a gwasanaethau brys Awstralia.
"Dylai dinasyddion Prydain ddilyn cyngor yr heddlu a'r awdurdodau lleol a gallant gysylltu â Chonswliaeth Gyffredinol Prydain yn Sydney am gefnogaeth."
Y gred yw bod Ms Cooper mewn cysylltiad â'i chymar yn Awstralia, Penny Wong, ynglŷn â'r digwyddiad.
Llun: Reuters