Dau wedi marw a naw wedi eu hanafu ar ôl saethu mewn prifysgol yn Rhode Island
Mae cannoedd o blismyn yn chwilio am ddyn arfog sy'n gyfrifol am achos o saethu mewn prifysgol yn nhalaith Rhode Island yn yr Unol Daleithiau ddydd Sadwrn.
Cafodd dau o bobl eu lladd yn ystod y digwyddiad ym Mhrifysgol Brown yn Providence, gyda naw arall wedi'u hanafu.
Dywedodd Llywydd Prifysgol Brown, Christina Paxson, fore Sul bod wyth o'r rhai a gafodd eu hanafu yn cael triniaeth ysbyty.
"Rydym wedi clywed o'r ysbyty fod chwe myfyriwr yn parhau mewn cyflwr critigol ond sefydlog," meddai mewn datganiad.
"Mae un myfyriwr mewn cyflwr critigol, mae un arall mewn cyflwr sefydlog, a chafodd un ei drin a'i ryddhau."
Y gred yw bod pob un neu bron pob un o'r dioddefwyr, yn fyfyrwyr y brifysgol.
Fe wnaeth y dyn arfog ddianc ar ôl saethu at fyfyrwyr yn ystod arholiadau mewn ystafell ddosbarth yn adeilad peirianneg y brifysgol.
Dywedodd y maer lleol, Brett Smiley, nos Sadwrn nad yw'r heddlu yn credu bod y saethwr yn peri unrhyw "fygythiad penodol parhaus".
Ond erbyn hyn mae mwy na 400 o blismyn yn chwilio'r ardal er mwyn dod o hyd i'r dyn arfog.
Nid yw'r saethwr wedi cael ei adnabod eto, ond mae'n cael ei ddisgrifio fel dyn o bosibl yn ei 30au.
Ar adeg y digwyddiad roedd yn gwisgo du ac efallai ei fod wedi gwisgo mwgwd, meddai'r heddlu.
Mae'r brifysgol yn parhau i fod dan glo, gyda myfyrwyr wedi cael gwybod i aros dan do.