Cylchgrawn Barn i gynnig recordiadau o'u herthyglau i bobl â nam golwg
Bydd cylchgrawn materion cyfoes Barn yn cynnig recordiadau o'u herthyglau i bobl â nam golwg.
Cafodd cylchgrawn misol Barn ei sefydlu yn Sir Gâr yn 1962 ac ers hynny mae mwy na 500 o rifynnau wedi cael eu cyhoeddi.
Mae'r cylchgrawn bellach yn awyddus i sicrhau bod eu cynnwys ar gael i bobl sy’n ddall, yn rhannol ddall, neu’n wynebu heriau gyda darllen.
Daeth egin y syniad i leisio'r erthyglau gan aelodau o fwrdd y cylchgrawn ar ôl iddyn nhw gysylltu gyda rhai tanysgrifwyr yn ddiweddar.
"Be' natho ni sylweddoli oedd bod nifer o bobl wedi bod yn tanysgrifio i Barn ers y dechrau un nôl yn y 60au yn dal i danysgrifio allan o ryw deyrngarwch i’r cylchgrawn, ond methu darllen y cylchgrawn bellach oherwydd eu bod nhw’n ddall neu’n rhannol ddall," meddai Eiry Miles, cyd-gadeirydd y bwrdd.
"Roedden ni’n meddwl bod o’n drueni mawr bod nhw methu mwynhau’r cylchgrawn ar ôl dangos gymaint o gefnogaeth tuag at y cylchgrawn.
"Felly, meddylion ni y bydde hi’n braf gallu cynnig dewis arall i bobl a bod modd iddyn nhw wrando ar y cylchgrawn a'i mwynhau mewn fformat newydd."
Er mwyn recordio'r erthyglau, mae'r cylchgrawn yn cydweithio gydag elusennau Cymdeithas y Deillion ym Mangor a Llyfrau Llafar yng Nghaerfyrddin.
Y bwriad ydi bod awduron yr erthyglau yn lleisio eu herthyglau eu hunain, gyda thanysgrifwyr yn derbyn y recordiadau ar ffurf CD neu atodiad e-bost.
Yn ôl Ms Miles, mae'r fenter newydd yn rhan o ymroddiad i wneud Barn yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.
"Mae pobl yn hoffi derbyn gwybodaeth mewn ffurf wahanol ac mae anabledd dysgu, fel dyslecsia, yn gwneud hi'n anodd i bobl fwynhau darllen hefyd," meddai.
"Felly mae’n bwysig iawn ceisio cynnig y gwasanaeth yma fel bod pobl yn gallu mwynhau a gwerthfawrogi cynnwys Barn, ond yn bennaf oll i bobl â nam golwg a phobl sydd wedi bod yn ffyddlon iawn i’r cylchgrawn dros y blynyddoedd ac sy’n awyddus i barhau i fwynhau’r cylchgrawn.
"Ddyle eu hanabledd a’u problemau golwg nhw ddim eu rhwystro rhag mwynhau cynnwys y cylchgrawn a pharhau i ymddiddori mewn materion cyfoes."
Ychwanegodd: "Mae'n bwysig bod pobl ddim y cael eu torri allan o fod yn rhan o be' sy'n digwydd yn y byd, a dysgu a thrafod materion cyfoes."
Mae'r cylchgrawn wedi recordio erthyglau o rifyn Rhagfyr-Ionawr i’w darparu mewn fformat sain a’u rhyddhau ar yr un pryd â’r rhifyn dwbl tymhorol.
O’r rhifyn hwn, bydd Meg Elis yn bwrw golwg dros lên a llyfrau 2025, Elin Llwyd Morgan yn trafod hysbysebion Nadolig, a Beca Brown yn myfyrio ar unigedd.
Bydd Elinor Wyn Reynolds yn trafod rhaglenni teledu’r Nadolig, tra bydd Huw Griffiths yn amlinellu ei bryderon am raglen Academi Seren Llywodraeth Cymru.
Bydd y rhifyn hefyd yn cynnwys stori arbennig wedi'i lleisio gan yr actor Andrew Teilo.