Cathod bach wedi eu darganfod yn farw mewn bag plastig yn ardal Caernarfon
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i gathod bach gael eu darganfod yn farw mewn bag plastig yn ardal Caernarfon.
Cafodd y cathod eu darganfod mewn bag plastig yn agos i eglwys Llandwrog.
Y gred yw eu bod wedi eu boddi rhwng dydd Iau 23 Hydref a dydd Gwener 24 Hydref.
Mae swyddogion yn galw am wybodaeth gan unrhyw un a wnaeth weld unrhyw ymddygiad amheus yn yr ardal, neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad.
Mae'r llu wedi atgoffa'r cyhoedd ei fod yn anghyfreithlon i foddi cathod neu unrhyw anifeiliaid anwes yn ôl Deddf Diogelwch Anifeiliaid 2006.