Caerdydd a Wrecsam i wynebu ei gilydd am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd

Caerdydd a Wrecsam i wynebu ei gilydd am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd

Am y tro cyntaf ers 2004 bydd Caerdydd a Wrecsam yn wynebu ei gilydd wrth iddynt gwrdd yng Nghwpan yr EFL.

Bydd y ddau glwb yn cwrdd yn y Stok Cae Ras ar gyfer yr ornest ym mhedwaredd rownd y gystadleuaeth.

Hawliodd Caerdydd eu lle yn y rownd yma ar ôl ennill yn erbyn Burnley, sydd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair, 0 2-1.

Enillodd Wrecsam 2-0 yn erbyn Reading, sydd yn chwarae yn Adran Un, sef yr un gynghrair a Chaerdydd.

Nid yw'r clybiau wedi chwarae yn erbyn ei gilydd yn gyson, gan herio ei gilydd ar bedwar achlysur yn unig yn y 30 mlynedd diwethaf.

Daeth y gêm ddiweddaraf  yng Nghwpan Premier Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2004 - gyda Wrecsam yn ennill ar giciau o'r smotyn.

Adran Dau yn 2002 oedd y tro diwethaf iddynt wynebu ei gilydd yn y gynghrair, a Chaerdydd oedd yr enillwyr o 3-2 yr adeg honno.

Mae cyn-chwaraewr Wrecsam a'r sylwebydd Waynne Phillips yn dweud bydd yr awyrgylch nos Fawrth yn "wych."

"Y tro cynta’ fi ‘di gallu deud hyn am rai blynyddoedd, dwi’n meddwl bod Wrecsam yn well tîm na Chaerdydd ‘wan.

"Oddi ar y cae fydd yr awyrgylch yn wych a mi fydd Caerdydd yn chwarae rhan o hynny hefyd.

"Rhyw 1,000, 1,100 o tocynnau fi’n siŵr fyddan nhw wedi gael

"Fydd ‘na 10,000 neu fwy gyfan gwbl i gyd yn y stadiwm ond fydd o’n swnio fel 20,000."

Image
Caerdydd yn wynebu Wrecsam yn 1994. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Caerdydd yn wynebu Wrecsam yn 1994 (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

'Cyffrous'

Wrth siarad cyn y gêm nos Fawrth dywedodd rheolwyr Caerdydd a Wrecsam eu bod yn gyffrous i wynebu tîm arall o Gymru yng Nghwpan yr EFL.

"Yn naturiol, mae hon yn ornest mae pawb yn y clwb yn edrych ymlaen ati," meddai Brian Barry-Murphy, rheolwr Caerdydd.

"Ers y rownd gyntaf ein bwriad oedd ennill pob un gêm a rhoi cyfle i ni wynebu tîm gwahanol.

"Nid oes gennym nifer y tocynnau yr oeddem yn disgwyl, ond fe fydd miloedd o gefnogwyr yno.

"I gystadlu yn erbyn tîm arall o Gymru, mae'n gyffrous iawn."

Mae Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gêm nos Fawrth wedi gêm gyfartal yn erbyn Middlesborough dros y penwythnos.

Dywedodd Phil Parkinson ei fod eisiau mwynhau'r awyrgylch cyn y gêm honno, ac mae'n bwriadu mwynhau'r frwydr yn erbyn Caerdydd hefyd.

"Dwi jyst eisiau mwynhau'r awyrgylch a bod yn rhan o stadiwm wych, ac mae wynebu Caerdydd yn union yr un peth," meddai.

"Dyma'r tro cyntaf ers sawl blwyddyn rydym wedi cyrraedd y rownd yma, a dwi eisiau gwneud y mwyaf ohoni a gwneud bob dim o fewn ein gallu i gyrraedd rownd yr wyth olaf, ac fe fyddwn yn gwneud hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.