'Cyfle i'r chwaraewyr ifanc' wrth i Gymru chwarae am y tro cyntaf ers ymddeoliad Jess Fishlock

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Mared Griffiths

Bydd cyfle i bêl-droedwyr ifanc Cymru wneud eu marc wrth iddyn nhw chwarae am y tro cyntaf ers i Jess Fishlock ymddeol, yn ôl rheolwr y tîm cenedlaethol. 

Nos Fawrth, fe fydd tîm Rhian Wilkinson yn wynebu Gwlad Pwyl ar faes Rodney Parade yng Nghasnewydd.

Daw hynny dridiau ers i Jess Fishlock chwarae ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn Awstralia o flaen torf o dros 11,000 yng Nghaerdydd.

Nawr fe fydd y garfan yn dechrau ar bennod newydd hebddi, wedi iddi sgorio 46 o goliau mewn 166 o gemau dros ei gwlad.

Mae Rhian Wilkinson yn disgrifio'r cyfnod nesaf fel un sydd yn llawn "newid" - rhywbeth sydd yn codi ofn arni ond hefyd yn ei chyffroi.

"Yn sicr mae'n gyfnod o newid, ac mae newid yn air brawychus," meddai

"Ond hefyd mae'n air cyffrous. Dwi'n meddwl bod sawl cyfle nawr i'r chwaraewyr sydd wedi bod ar gyrion y garfan neu wedi bod yn datblygu.

"Mae ganddyn nhw gyfle i gamu i fyny a hawlio eu lle yn y garfan."

'Symbolaidd'

Enillodd tair chwaraewraig eu capiau cyntaf dros Gymru ddydd Sadwrn, gydag ambell i chwaraewr yn dechrau dros eu gwlad am y tro cyntaf.

Y ferch 18 oed o Drawsfynydd Mared Griffiths oedd un ohonyn nhw, ac roedd y diwrnod yn un i'w gofio wrth iddi sgorio ei gôl gyntaf dros Gymru.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C yn gynharach fis Hydref, dywedodd Mared Griffiths "‘swn i’n hoffi bod fel Jess Fishlock nesaf."

Wrth siarad am gôl Griffiths yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn dywedodd Rhian Wilkinson ei fod yn "symbolaidd" bod chwaraewr mor ifanc wedi rhwydo yn ystod ymddangosiad olaf Fishlock.

"Rhedodd Mared yr holl amser roedd hi ar y cae - ond gyda phwrpas ac mae hynny'n allweddol," meddai Wilkinson.

"Cymerodd ei gôl yn wych ac mae'n eithaf symbolaidd tydi? Gêm olaf Jess a seren ifanc yn sgorio worldie fel yna."

Cymru a Gwlad Pwyl oedd y ddwy wlad i chwarae ym mhencampwriaeth EURO am y tro cyntaf erioed dros yr haf.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r gwledydd wynebu ei gilydd ers 2009 tra'n cystadlu yng Nghwpan yr Algarve.

Yn y ddwy ornest honno, enillodd Cymru 5-1 cyn i Wlad Pwyl ennill 2-1 ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.

Ddydd Gwener, chwaraeodd Gwlad Pwyl yn erbyn Yr Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar. 0-0 oedd y canlyniad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.