Jamaica yn paratoi am y storm 'fwyaf pwerus erioed'
Mae tri o bobl eisoes wedi marw yn Jamaica wrth i’r wlad baratoi am y storm “fwyaf pwerus” erioed yno.
Mae arbenigwyr wedi rhybuddio mai Corwynt Melissa fydd y corwynt mwyaf pwerus erioed i daro Jamaica gyda rhagolygon am wyntoedd hyd at 175mya, a hyd at 101cm (40 modfedd) o law.
Dyma fydd y storm fwyaf ffyrnig i daro unrhyw le yn y byd hyd yma eleni, yn ôl y rhagolygon.
Mae disgwyl iddo daro Jamaica yn ddiweddarach ddydd Mawrth. Fe fydd disgwyl i wyntoedd cryfion all “peri peryg i fywyd” ddechrau chwythu fore ddydd Mawrth.
Mae’r rhan fwyaf o’r wlad eisoes yn wynebu amodau tywydd eithafol.
Ar hyn o bryd mae Corwynt Melissa yn symud yn araf (tua 2mya) i gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol tuag at Jamaica.
Cafodd Melissa ei huwchraddio i gorwynt categori pump – sef y cryfder mwyaf – gan Ganolfan Corwyntoedd Cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau ddydd Llun.
Dim ond tri o gorwyntoedd sydd wedi taro Jamaica yn uniongyrchol ers 1988.
Fe gyhoeddodd Gweinyddiaeth Iechyd a Llesiant Jamaica bod tri o bobl eisoes wedi marw, a hynny “yn gysylltiedig â’r storm” ddydd Llun.
Bu farw’r tri o bobl wedi iddyn nhw fod yn torri coed er mwyn paratoi ar gyfer y storm, meddai’r gweinidog Iechyd a Llesiant Christopher Tufton ddydd Llun.
Cafodd un person ei ladd yn dilyn sioc drydanol, tra bod dau berson wedi marw ar ôl i goed cwympo arnyn nhw.
Mae’r corwynt hefyd wedi bod yn gyfrifol am o leiaf tri o farwolaethau yn Haiti ac un arall yng Ngweriniaeth Dominica.