Pont y Borth i ailagor yn llawn fore Gwener

Pont Menai

Fe fydd Pont y Borth yn ailagor yn llawn i draffig o ddydd Gwener ymlaen. 

Fe fydd y bont y ailagor yn llawn i draffig o 07:00 y bore wedi i waith dros dro i fynd i'r afael â phroblem gyda nifer o folltau ar y bont gael ei gwblhau'n llwyddiannus.

Bydd y bont yn agor gyda therfyn pwysau o 7.5 tunnell ar waith wedi i beirnawyr gynghori fod modd codi'r terfyn pwysau 3 tunnell blaenorol bellach ar ôl i'r bont gael ei hatgyfnerthu. 

Fe fydd y gwaith dros dro yn cael ei archwilio bob dydd Mercher am 10:00, ac fe fydd traffig yn cael ei reoli ar y bont gydag arwyddion. 

Mae'r bont yn ailagor yn cyd-fynd â ffair Borth, ac fe fydd yn caniatáu i draffig deithio i'r ynys ac oddi yno ar y ddwy bont yn ystod y digwyddiad. 

Dywed y Llywodraeth y bydd gwaith "ar ddatrysiad parhaol" i'r broblem yn digwydd yn yr wythnosau nesaf er mwyn hwyluso gwaith Cam 2.

Ychwanegodd y llywodraeth eu bod yn ymddiheuro am yr anghyfleustera a achoswyd yn sgil y gwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.