Caerdydd: Swyddi yn y fantol wedi i gwmni bragu benderfynu cau canolfan alwadau

Molson Coors Caerdydd

Mae pryderon y gallai swyddi gael eu colli yng Nghaerdydd wedi i gwmni bragu gyhoeddi ei fod yn cau safle yn y brifddinas.

Mae’r cwmni Americanaidd Molson Coors wedi cyhoeddi y bydd yn cau canolfan alwadau genedlaethol y cwmni, sydd wedi’i leoli ym Mhontprennau, cyn diwedd y flwyddyn.

Mae disgwyl y gallai hyd at 200 o swyddi gael eu colli ar draws y DU, wedi i’r cwmni hefyd gyhoeddi y bydd yn cau bragdy Sharp yng Nghernyw.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â’r bragwr i holi ynglŷn â sawl swydd sydd yn y fantol yng Nghaerdydd.

Mae’r cwmni, sy’n bragu sawl diod boblogaidd, gan gynnwys Carling, Coors a Madri, yn dweud ei fod bellach yn derbyn 90% o’i archebion gan gwsmeriaid a thafarndai ar-lein.

Bydd gwasanaethau cwsmeriaid y cwmni yn cael eu hadleoli i’w bencadlys yn Burton upon Trent, Swydd Stafford.

Daw’r penderfyniad i gau’r ganolfan yng Nghaerdydd fel rhan o ymdrechion i “arbed costau”, yn ôl rheolwr gyfarwyddwr Molson Coors ar gyfer y DU ac Iwerddon, Simon Kerry.

“Wrth i arferion prynu ein cwsmeriaid gael eu gwneud yn ddigidol fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi esblygu ein busnes fel rhan o’n taith ddigideiddio," meddai.

“Nid yw’r cau arfaethedig i’n canolfan alwadau genedlaethol yn adlewyrchiad o waith gwych ein timau, ond mae’n ymateb i’r newidiadau hyn.

“Mae hwn yn amlwg yn gyfnod anodd iawn i’n cydweithwyr, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein timau drwy’r broses hon.”

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.