Y blychau pleidleisio yn agor yn is-etholiad Gorton a Denton
Mae’r blychau pleidleisio wedi agor yn etholaeth Gorton a Denton yng ngogledd orllewin Lloegr fore ddydd Iau.
Daw’r is-etholiad ym Manceinion wedi i’r cyn Aelod Seneddol Llafur Andrew Gwynne benderfynu ymddiswyddo ar sail problemau meddygol.
Roedd wedi bod yn y sedd fel AS annibynnol ers dechrau Chwefror y llynedd.
Roedd yn arfer bod yn AS Llafur cyn iddo gael ei wahardd o'r blaid.
Fe fydd y blychau pleidleisio ar agor rhwng 07.00 a 22.00.
Bydd 11 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr is-etholiad ddydd Iau.
Dyma restr lawn o'r ymgeiswyr:
- Sir Oink A-Lot, The Official Monster Raving Loony Party
- Nick Buckley, Advance UK
- Charlotte Cadden, Ceidwadwyr
- Dan Clarke, Libertarian Party
- Matt Goodwin, Reform UK
- Sebastian Moore, Y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol (Social Democratic Party)
- Joseph O'Meachair, Rejoin EU
- Jackie Pearcey, Democratiaid Rhyddfrydol
- Hannah Spencer, Y Blaid Werdd
- Angeliki Stogia, Y Blaid Lafur
- Hugo Wils, Y Gynghrair Gomiwnyddol