Cyhuddo llanc 18 oed o lofruddio ei fam yn Sir Ddinbych
Mae llanc 18 oed wedi ymddangos o flaen ynadon ar gyhuddiad o lofruddio ei fam yn Sir Ddinbych.
Cafodd corff Angela Shellis, 45 oed, ei ddarganfod gan yr heddlu yn ardal y Morfa, Prestatyn ddydd Gwener ddiwethaf.
Cafodd Tristan Thomas Roberts o Coniston Drive, Prestatyn, ei arestio yn ei gartref wedi’r digwyddiad.
Yn y gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mawrth, cadarnahodd ei enw, cyfeiriad a dyddiad geni.
Nododd Julia Galston ar ran yr erlyniad fod cyflwr Mr Roberts yn "fregus."
Dywedodd Dafydd Roberts ar ran yr amddiffyniad, na fyddai cais am fechnïaeth, oherwydd natur y cyhuddiad.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher.
Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd llefarydd ar ran teulu Angela Shellis ei bod “yn ferch, chwaer, mam a modryb gariadus a fydd yn cael ei cholli yn ofnadwy."
Mae swyddogion arbenigol Heddlu’r Gogledd yn dweud eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth all gynorthwyo eu hymchwiliad.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andy Gibson: “Mae dyn 18 oed bellach wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, wedi iddo gael ei arestio'r wythnos diwethaf.
“Dylai unrhyw un a oedd yn ardal y Morfa, ger y caeau pêl-droed, ddydd Gwener 24 Hydref rhwng 3.00 a 08.30 y bore gysylltu â ni drwy 101, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny,” meddai.
“Mae’n parhau’n hollbwysig ein bod yn gallu adnabod unrhyw un a oedd yn yr ardal yn ystod yr amseroedd allweddol hyn.
Mae’n annog unrhyw un all fod o gymorth i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ddyfynnu’r cyfeirnod C165084.