Cant o ddefaid wedi eu dwyn yn y canolbarth

Tylwch Llanidloes

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i 100 o ddefaid gael eu dwyn ar fferm ym mhentref Tylwch ger Llanidloes.

Mae'r llu yn credu i'r defaid croesfrid Romney Texel gael eu dwyn rywbryd rhwng 12 Medi a 7 Hydref. 

Roedd dau dag yng nghlustiau pob un o'r defaid. 

Wrth apelio am wybodaeth, dywedodd yr heddlu sy'n cynrychioli Llanidloes a'r Drenewydd fod troseddau o'r fath yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr a'u busnes.   

"Rydym yn gofyn i'r gymuned amaethyddol i'n cynorthwyo er mwyn dod o hyd i'r defaid a'r rhai sy'n gyfrifol am y drosedd hon," meddai'r heddlu.

"Byddai angen gwybodaeth am y diwydiant er mwyn casglu a symud y defaid hyn. Rydym yn sicr fod gan rywun wybodaeth am y lladradau hyn. 

"Byddai'r bobl hynny naill ai yn adnabod y sawl sy'n gyfrifol, wedi gweld yr anifeiliad yn cael eu symud, ac o bosib eu gweld yn cael eu gwerthu mewn marchnad da byw neu ladd-dai, neu hyd yn oed eu gweld mewn cae rywle.

"Mewn achosion o'r fath, mae'n bosibl fod y defaid wedi eu lladd yn anghyfreithlon a bellach yn y gadwyn fwyd."

Mae'r llu yn apelio ar bobl o'r gymuned amaeth, arwerthwyr a pherchnogion lladd-dai i gysylltu, os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth allai gynorthwyo eu hymchwiliad.               

    

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.