Trefnu protestiadau yn Aberystwyth a Chaerdydd yn galw ar ddod â gwaharddiad Palestine Action i ben

Palestine Action

Mae protestiadau wedi eu cynllunio ledled y DU - gan gynnwys Cymru - yn galw ar ddod â gwaharddiad ar grŵp Palestine Action i ben.

Dywedodd ymgyrchwyr Defend Our Juries y bydd protestiadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ac Aberystwyth fis nesaf.

Hefyd fe fydd protestiadau yng Nghaeredin, Leeds, Llundain, Manceinion, Belfast a sawl lleoliad eraill.

Dywedodd y trefnwyr y gallai 1,500 o bobl gymryd rhan yn y protestiadau.

Mae'r rhai sydd wedi eu hamau o gefnogi'r grŵp sydd yn y carchar ac yn aros i wynebu achos llys hefyd yn bwriadu ymprydio mewn protest, gan ddechrau ddydd Sul.

Hyd yma mae dros 2,000 o bobl wedi cael eu harestio ar ôl honiadau eu bod yn cefnogi Palestine Action.

'Hil-laddiad'

Fe ddaeth y gwaharddiad ar Palestine Action i rym ar 5 Gorffennaf, ac mae aelodaeth o’r grŵp gweithredu uniongyrchol, neu gefnogaeth iddo, yn drosedd allai arwain at 14 mlynedd yn y carchar.

Mae trefnwyr y protestiadau fydd yn digwydd fis nesaf eisoes wedi cynnal digwyddiadau lle mae protestwyr wedi gafael mewn posteri sydd yn dweud "Dwi'n gwrthwynebu hil-laddiad. Dwi'n cefnogi Palestine Action."

Dywedodd llefarydd ar ran Defend Our Juries, Dr Clive Dolphin bod gan bobl yr hawl i leisio eu barn am Lywodraeth y DU.

“Mae hyn am y DU, pobl sydd â'r hawl i brotestio, yr hawl i leisio eu barn am lywodraeth pan maen nhw’n meddwl bod y llywodraeth wedi gwneud rhywbeth o’i le.

"Ac yn y bôn mae hyn yn ymwneud â’r ffaith bod pobl Prydain yn gwrthwynebu hil-laddiad.

“Dydyn nhw ddim eisiau bod yn rhan o droseddau rhyfel. Dydyn nhw ddim eisiau gweld pobl yn llwgu i farwolaeth. Mae pobl Prydain yn gwrthwynebu hil-laddiad.”

Ychwanegodd fod nifer y bobl sydd wedi cael eu cyhuddo hyd yn hyn yn achosi “anhrefn llwyr” yn system y llysoedd ynadon.

Cafodd Palestine Action ei wahardd ar ôl ymosodiadau honedig ar safle cwmni amddiffyn yn y DU a dwy awyren yn safle'r Awyrlu yn Brize Norton.

Mae pump o’u haelodau wedi’u cyhuddo o fandaleiddio dwy awyren yn RAF Brize Norton ar 20 Mehefin, gan achosi £7 miliwn o ddifrod.

Mae 24 o bobl eraill i fod i wynebu achos llys am dorri i mewn i Elbit Systems ym Mryste ym mis Awst 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.