'Torcalon' mam o Wynedd wrth aros am asesiad awtistiaeth i'w mab

Newyddion S4C

'Torcalon' mam o Wynedd wrth aros am asesiad awtistiaeth i'w mab

Mae mam o Wynedd wedi sôn am ei thorcalon wrth iddi aros i’w mab ifanc, sy’n dioddef o or-bryder difrifol, i gael asesiad awtistiaeth ac ADHD.

Mae’n dweud iddo fod ar restr aros niwroddatblygiadol ers mwy na thair blynedd.

Yn ôl ffigyrau, roedd mwy na 7,000 o blant yng ngogledd Cymru yn aros am asesiad yn gynharach eleni.

Mae ceisiadau ar gyfer asesiadau wedi dyblu ers cyn y pandemig, meddai’r bwrdd iechyd, ac mae o “bryder cenedlaethol”.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn deall pa mor anodd y gall amseroedd aros hir fod i blant a theuluoedd 

Dydi Newyddion S4C ddim yn datgelu pwy yw'r fam na’r mab er mwyn eu gwarchod.

Mae niwrodatblygiadol yn derm sy’n cynnwys nifer o gyflyrau, gan gynnwys awtistiaeth, ADHD, dyslecsia a dyspracsia.

Yn ddiweddar, mae sefyllfa'r mab wedi gwaethygu.

“Mae ei or-bryder o wedi mynd drwy’r to,” meddai’r fam. “Mae o’n overwhelmedgyda’r sefyllfa ac mae’n ffeindio hi’n anodd iawn i ymdopi gyda bob dim sydd yn newydd iddo fo.” 

Dywedodd bod hynny wedi effeithio ar ei fywyd personol hefyd.

“Ffwtbol ydi ei fywyd o, ond ar hyn o bryd mae o’n stryglo i fynd ar y cae.”

'Torcalonnus' 

Gan nad ydi o wedi cael asesiad, mae ei rieni yn ansicr be sy’n achosi’r gor-bryder.

“Dwi ddim yn gwybod sut i’w helpu fo…ar hyn o bryd fel rhieni 'da ni yn winging it.”

Dywedodd bod y sefyllfa yn “dorcalonnus” a’i bod fel mam yn ei chael hi’n anodd iawn ymdopi o ddydd i ddydd.

Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos fod 7,154 o blant yn aros am asesiad niwro-ddatblygiadol yn y gogledd o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Mehefin.

Roedd ei mab yn 350 ar y rhestr bryd hynny, erbyn hyn mae o yn 319.

Bellach mae hi a’i gŵr wedi talu am asesiad preifat.

“Dyda ni ddim yn gyfoethog o bell ffordd…ond roeddem ni’n teimlo bod dim dewis gennym ni… ond mae o’n hollol wrong bod rhaid i ni wneud hynny a dydi o ddim yn deg.” 

Dywedodd y gweinidog iechyd meddwl Sarah Murphy A.S. ym mis Ionawr fod 20,770 o blant yn aros am asesiad yng Nghymru ym mis Medi 2024.

'Argyfwng' 

Mae AS Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, wedi codi pryderon am y sefyllfa.

Dywedodd yr aelod dros Ddwyfor Meirionnydd bod y sefyllfa yn “gwbl argyfyngus” i’r plant a’u teuluoedd sy’n aros am asesiad.

“Does 'na ddim digon o fuddsoddiad wedi mynd mewn i sicrhau bod digon o gefnogaeth seicolegol ar gael ar gyfer asesiadau,” meddai.

“Does ganddo ni ddim y gweithlu i wneud y gwaith angenrheidiol yma… na dealltwriaeth lawn o’r cyflwr.”

Image
Mabon
AS Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor 

Dywedodd Tehmeena Ajmal, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bod nifer y ceisiadau niwroddatblygiadol wedi dyblu bron o’i gymharu â chyn y pandemig.

“Er y croesawir bod mwy o ymwybyddiaeth ynghylch materion niwroamrywiaeth plant, mae'n her bodloni'r galw am yr asesiadau y gofynnir amdanynt.

“Rydym hefyd yn gweld anghenion plant yn mynd yn fwy cymhleth, sy'n ychwanegu at yr amser y mae'n ei gymryd i glinigwyr ddeall anghenion plentyn ac ymateb iddynt.”

Ychwanegodd bod hwn yn fater sy’n effeithio ar bob bwrdd iechyd, a’i fod yn “bryder cenedlaethol” ac yn “flaenoriaeth allweddol”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gweithio i leihau amseroedd aros mewn ymateb i'r galw cynyddol ac rydym wedi buddsoddi'n sylweddol i wella'r gwasanaethau hyn ochr yn ochr â chynyddu cymorth cyn-ddiagnostig.

"Ym mis Mehefin, ailgyfeiriwyd £5.6m i ddileu aros tair blynedd am asesiadau plant erbyn mis Mawrth 2026.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.