'Trydedd bont dros y Fenai yn gwbl angenrheidiol erbyn hyn'
Mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Ynys Môn brynhawn Mawrth, mae cynghorwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu, gydag un cynghorydd yn dweud fod "adeiladu trydedd bont dros y Fenai yn gwbl angenrheidiol erbyn hyn."
Fe gafodd y cyfarfod ei alw yn sgil problemau diweddar gyda Phont y Borth.
Cafodd Pont y Borth, sef un o ddwy bont sy'n cysylltu Ynys Môn gyda'r tir mawr, ei chau ar frys i holl gerbydau ar 4 Hydref, wedi i archwiliad ddarganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont.
Yn ystod y cyfarfod arbennig brynhawn Mawrth, fe ddywedodd y cynghorydd annibynnol dros Dref Cybi, Jeff Evans: "Pa ffydd sydd gan neb yn yr Ynys wedi mynd, rydym wedi gweld un ergyd ar ôl y llall yma." gan gyfeirio'n benodol at gynlluniau yn cynnwys gorfod cau porthladd Caergybi am gyfnod oherwydd difrod, a phenderfyniad cwmni Hitachi i beidio bwrw 'mlaen i adeiladu atomfa newydd yn Yr Wylfa.
"Pa bryd y cawn ni drafodaeth ddifrifol efo Llywodraeth Cymru am adeiladu trydedd bont, mae'r peth yn amlwg i bawb ei bod yn angenrheidiol erbyn hyn." ychwanegodd y cynghorydd.
Wrth ategu sylwadau Mr Evans, fe ddywedodd y cynghorydd Arfon Wyn o Blaid Cymru, nad yw'r ddwy bont sy'n croesi'r Fenai ar hyn o bryd yn "addas ar gyfer eu defnydd.
"Mae un bont wedi ei chynllunio a'i hadeiladu ar gyfer ceffyl a throl, ac mae'r bont arall yn un ar gyfer trenau’n benodol, ond fod ffordd [yr A55] wedi ei hychwanegu yn ddiweddarach." meddai Mr Wyn.
Fe alwodd y cynghorydd hefyd am greu "dirprwyaeth o'r newydd" i fynd at Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i "wneud ein hachos yn gwbl glir" am yr angen ar gyfer pont newydd.
Mae’r bont bellach yn agored i’r ddau gyfeiriad, gyda therfyn pwysau o 7.5 tunnell mewn lle i gerbydau.
Fe gafodd y bont hefyd ei chau am rai misoedd yn 2022 ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol, yn sgil argymhellion diogelwch gan beirianwyr.
'Gwananaethau brys o'r tir mawr yn methu croesi'r Fenai'
Fe gafodd pryderon hefyd eu rhannu gan y cynghorwyr brynhawn Mawrth am effeithiau cau'r pontydd ar fywydau pobl yr ynys, a'r ffaith fod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi gorfod lleoli injan dân ychwanegol yn nhref Porthaethwy oherwydd pryderon na fyddai modd sicrhau fod criwiau o'r tir mawr yn gallu croesi'r Fenai mewn digon o amser pe tai argyfwng.
Fe gafodd cynnig hefyd ei gyflwyno o flaen y cyngor llawn, yn galw am gefnogaeth i fusnesau sydd wedi dioddef yn sgil gorfod cau'r bont, gyda chynghorwyr yn pleidleisio'n unfrydol o blaid y cynnig.
Yn gynharach yn y mis, fe ddywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, nad yw Llywodraeth Cymru “erioed wedi diystyru” adeiladu trydedd bont rhwng Ynys Môn a thir mawr Cymru, ond y byddai angen dod o hyd i “swm enfawr o arian” er mwyn ei hadeiladu.
Roedd y Prif Weinidog yn ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, sy’n cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn 2023 na fyddai trydedd bont ar gyfer cerbydau yn cael ei hadeiladu dros y Fenai, a hynny yn dilyn adolygiad o dros 50 o brosiectau ffyrdd oedd o dan ystyriaeth ar y pryd.
Er nad oes bwriad i adeiladu pont newydd i gerbydau dros y Fenai, dywedodd y llywodraeth ar y pryd eu bod yn edrych ar ystod o ffyrdd i “ddatblygu opsiynau i sicrhau gwydnwch croesi’r Fenai, ac a fyddai'n cyd-fynd â’r profion adeiladu ffyrdd yn y dyfodol”.
