'Hunllefus': Effaith cau Pont y Borth ar fusnesau lleol a theithwyr

Pont Borth - Jane Plus39 / Cynghorydd Robin Williams

Mae galwadau am gymorth i fusnesau ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn wedi i Bont y Borth orfod cau ar unwaith dros y penwythnos.

Cafodd y bont, sy'n cysylltu Ynys Môn gyda'r tir mawr, ei chau ddydd Sadwrn er mwyn cynnal gwaith atgyweirio brys.

Daeth y penderfyniad i gau’r bont ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno terfyn pwysau ddydd Gwener yn dilyn "cyngor brys" gan beirianwyr strwythurol, gan atal cerbydau’n pwyso dros dair tunnell rhag ei chroesi.

Daeth y cyngor wedi i archwiliad ddarganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont. 

Ond daeth cadarnhad ddydd Sadwrn y byddai'r bont yn cau'n gyfangwbl er mwyn cyflawni'r gwaith, a hynny am gyfnod amhenodol.

Wrth ymateb i'r datblygiad ddydd Llun, dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi ei fod yn "annerbyniol ein bod ni yn y sefyllfa hon unwaith eto."

Dros y penwythnos a fore Llun, mae teithwyr wedi profi oedi mawr wrth geisio croesi Pont Britannia, sef y bont arall rhwng Môn a Gwynedd.

Image
Tagfeydd yn Llanfairpwll
Tagfeydd yn Llanfairpwll fore Llun

Mae sawl busnes ym Mhorthaethwy wedi dweud eu bod nhw’n teimlo sgil effeithiau cau’r bont.

Dywedodd Jane Walsh, perchennog y bwyty Plus39 bod problemau traffig wedi effeithio ar fusnes ac ar drefniadau teithio staff.

“Mae pawb yn siomedig iawn bod nhw ddim wedi ffeindio hyn yn gynt. Da ni di cael y bont ar gau am dipyn o’r blaen ac mae o di rili effeithio’r dref.

“Bore ma’, does 'na neb yma. Da ni’n rili brysur yn y bore fel arfer ond da ni ddim heddiw.

Image
Jane Walsh, Perchennog bwyty Plus39
Jane Walsh, Perchennog bwyty Plus39

“Achos bod ni’n agor o’r bore tan hwyr yn nos, dwi’n siŵr gawn ni llwyth o bobol pnawn ma’ a pobl yn aros yma nes i’r traffic clirio dipyn bach.

“Ond y shops sydd yn agor yn y dydd, maen nhw’n aros am y trade Dolig ac yn dibynnu ar pobol yn dod yn ystod y dydd i gwario’u pres cyn Dolig.

“Neith nhw golli’r busnes yna i gyd rŵan, yn dibynnu ar faint fydd o ar gau.

“Mae gan i un hogan yn dechrau naw o’r gloch, mae hi dal ar y bus yn dod o Fangor, so da ni’n goro adjustio faint o oriau mae pobl yn gweithio. Ma pawb yn gorfod meddwl am ffor’ rownd o.

“Swni’n osgoi Borth os fyswn i ddim yn byw yma.”

‘Poeni’

Dyma’r ail dro i’r bont gael ei chau’n gyfan gwbl mewn tair blynedd, wedi i’r bont gau am bedwar mis yn 2022 oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Dywedodd perchennog siop lyfrau Awen Menai, Rhiannon Elis Williams, ei bod yn poeni am fusnesau bach y dref.

“I ni, ‘sa fo’m yn gallu dod ar adeg gwaeth a bod yn gwbl onest,” meddai wrth y BBC fore Llun.

“Just cyn Dolig rŵan di’r adeg lle mae pethau’n dechrau prysuro da ni di prynu llwyth o stoc i Nadolig.

“Da ni’n dibynnu lot ar bobl leol o ogledd Cymru yn dod dros y bont felly mae’n ddifrifol a dwi’n poeni achos ma busnesau bach yn fregus ac mae strydoedd fawr yn fregus hefyd.  

“Swn i’n gofyn am gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, y cyngor lleol a’r cwmni sy’n gyfrifol i ddod a rhyw fath o becyn cymorth i bobl tref Porthaethwy. 

Fe ychwanegodd: “Tro dwytha gathon ni lot o gyfathrebu, ond ddigwyddodd ddim byd. Swni’n erfyn ar y cyngor sir i roi parcio am ddim i drigolion Porthaethwy am y cyfnod pan mae’r bont ar gau.

“Ond i cael syniad gwirioneddol am faint fydd o di cau a be di’r sefyllfa.

Image
Traffig
Tagfeydd dros Pont Britannia yn sgil cau Pont y Borth (Llun: Traffic Wales)

Dywedodd Ceri Evans, perchennog siop Evans Bros: “Da ni’n devastated, ma o di effeithio ar lot o fusnesau ar y stryd fawr.

“Da ni’n poeni am yr holl fusnesau. Mae o’n mynd ei effeithio ar ein deliveries, a mae bod yn sownd mewn traffic yn hunlle. Dwi ddim yn siŵr am ba mor hir ma hun am fod.

“Y cynharaf mae’n ail-agor, y gorau. Dwi di gweld bod 'na fwyty yma di gael lot o bobl yn canslo dros y penwythnos hefyd, ac mae hynny’n dychryn rhywun.

“Mae’n boen meddwl i ni i gyd, mi ydan ni’ gymuned agos yma, ac mi ydan ni angen ein gilydd i oroesi. Os mae un yn mynd, mae’n effeithio ar bawb.”

‘Deall’ galwadau am drydedd bont

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y Cynghorydd Robin Wyn Williams ei fod yn deall y galwadau am drydedd pont yn sgil trafferthion Pont y Borth dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae hyn wedi digwydd tair blynedd yn ôl ac mae’n digwydd eto, mae’n hunllefus i fod yn berffaith onest.

“Mae’n hollol ddealladwy bod pobl yn sôn am drydedd bont, o ystyried bod gen ni ddwy bont, un yn 200 mlwydd oed a’r llall yn 175 mlwydd oed. Di nhw ddim yn mynd i bara am byth, dyna gwir y mater ac mae’r amser yn dod lle mae rhywbeth yn mynd i orfod cael ei wneud."

Dywedodd bod sawl mesur yn cael eu trafod rhwng y Llywodraeth a Chyngor Sir Ynys Môn. Un syniad sydd wedi ei awgrymu yw cynnig trafnidiaeth am ddim ar drenau rhwng Llanfairpwll a Bangor, i geisio lleddfu traffig ar Bont Britannia.

“Mae o’r sefyllfa be ydi o. Dydi’r bont ddim yn saff, ac os na dyna di’r case, mae’n rhaid i nhw chau hi a da ni’n derbyn hynny.

Image
Y Cynghorydd Robin Wyn Williams
Y Cynghorydd Robin Wyn Williams

“Mae cefnogi busnesau yn rhywbeth sydd am gael ei drafod efo Llywodraeth Cymru, mewn cyfarfod nes ymlaen heddiw ‘ma, bod eisiau i Lywodraeth Cymru ymyrryd i neud rhywbeth i helpu’r busnesau ‘ma.

“Ar ôl i Covid ddod i ben, dyma’r trydydd tro i fusnesau lleol gael eu heffeithio oherwydd wahanol bethau yn y pum mlynedd dwytha ac mae’n mynd i fod yn anodd iawn iddyn nhw os wneith hyn barhau am gyfnod ella mwy na ychydig o wythnosau.”

'Methiant clir'

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Llinos Medi, yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn a chyn-arweinydd y Cyngor: "Mae’n annerbyniol ein bod ni yn y sefyllfa hon unwaith eto."

"Mae cau Pont y Borth yn dangos methiant clir o gynllunio priodol gan Lywodraeth Cymru, a diffyg buddsoddiad gwirioneddol yn ein system drafnidiaeth gan Lywodraethau olynol y DU.
 
"Pan oeddwn i’n Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn yn 2023, cyflwynais gynlluniau clir, yn seiliedig ar dystiolaeth, i wella cysylltiadau’r ynys. 
 
Image
Llinos Medi
Llinos Medi, yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn
 
"Cefnogwyd y cynlluniau hyn yn llawn gan Bwyllgor Gwaith y Cyngor a dangoson nhw fod ein heconomi a’n lles lleol yn dibynnu ar gysylltiadau cryf a dibynadwy â’r tir mawr. Yn anffodus, dwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r rhybuddion hynny wedi cael eu hanwybyddu.
 
"Mae pontydd y Fenai yn hanfodol; maent yn rhan o lwybr masnach Ewropeaidd mawr rhwng Caergybi a Dulyn. Ond wrth i rannau eraill o’r DU yn cael buddsoddiadau enfawr mewn cysylltiadau trafnidiaeth newydd sbon, rydym yn cael ein gadael i ddelio â phontydd sy’n heneiddio a chau dro ar ôl tro.
 
"Mae busnesau lleol yn cael eu taro’n galed. Tan y bydd gennym atebion hirdymor, dylai fod cronfa arbennig i helpu cymunedau a busnesau i ymdopi tra bod y cysylltiadau hanfodol hyn yn parhau i fod yn fregus.
 
"Mae Ynys Môn yn haeddu gwell na datrysiadau tymor byr."
 
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Môn a UK Highways A55 am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.